Pryfeteg ac infertebratau daearol

Sharpshooters

Mae pryfed yn grŵp hynod amrywiol sy'n byw ym mhob cynefin bron (heblaw am gynefin morol) ac maent wedi cael eu hastudio a'u casglu am flynyddoedd lawer. Gellir gweld hyn yn amrywiaeth ac oed ein casgliadau ni.

Mae gan Amgueddfa Cymru un o gasgliadau pryfed mwyaf y DU, gyda dros filiwn o sbesimenau wedi'u pinio a'u rhannu yn gasgliad o'r DU a chasgliad tramor. Mae gennym hefyd gasgliad o gorynnod, nadroedd miltroed a chantroed ac infertebratau daearol eraill wedi'u cadw mewn hylif.

Caiff y casgliadau ddefnydd helaeth gan staff yr Amgueddfa a Chymrodyr Ymchwil Anrhydeddus fel cyfeirfa, ac i astudio sbesimenau cyn paratoi canllawiau adnabod.

Casgliadau

  • Mae'r casgliad o'r DU yn cynnwys pob is-ddosbarth pryfed, ac oddeutu 70-80% o bob rhywogaeth ym mhob is-ddosbarth. Mae'r casgliadau tramor yn amrywiol ond gyda nifer fawr o Hemiptera, Diptera a Coleoptera. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:
  • Casgliad Rippon - casgliad hanesyddol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn llawn rhywogaethau tramor yn bennaf yn arbennig Coleoptera a Lepidoptera
  • Casgliad J.R. le B. Tomlin - Coleoptera Prydain
  • Casgliad Nurse - Diptera ac Aculeate Hymenoptera Prydain
  • Casgliad H.M. Hallett - Hymenoptera Cymru (Pavett P.M. a Fowles A. 2004. The Aculeate Hymenoptera of Wales; with special reference to the manuscript ‘The Aculeates of Wales’ by H.M. Hallett)
  • Casgliadau o is-ddosbarthiadau amrywiol (o ogledd Cymru yn bennaf) gan Joan Morgan (Prifysgol Bangor)
  • Casgliad Heteroptera R.E. Linnavuori - oddeutu 6000 rhywogaeth o bryfed gan gynnwys teipddeunydd cynradd tua 600 rhywogaeth
  • Diptera o Affrica a'r Dwyrain Canol wedi'u curadu gan y cyn-aelod staff J. C. Deeming.

Ymchwil

  • Systemateg, tacsonomeg, bioleg a dosbarthiad is-grwpiau Diptera, Hemiptera, Hymenoptera'r DU a Coleoptera
  • Cynnal a chadw bas data Sharpshooter leafhoppers (Cicadellidae)
  • Canolbwyntiwyd yn ddiweddar ar bryfed tomenni glo yn ne Cymru.

Staff

Entomology

Dr Mike Wilson

Pennaeth Pryfeteg a Cheidwad Hemiptera

Mark Pavett

Uwch Guradur: Pryfeteg