Cwcis

Er mwyn gwneud ein gwefan yn haws ei defnyddio ac i wella ein gwasanaeth, rydyn ni weithiau yn gosod pecynnau bach o wybodaeth ar eich cyfrifiadur. Caiff y rhain eu galw'n 'cwcis' ac mae'r mwyafrif o wefannau mawr yn eu defnyddio.

Mae cwcis yn cael eu defnyddio i:

  • Gofio gosodiadau fel nad ydych chi'n gorfod newid gwybodaeth bob tro wrth lwytho'r un dudalen.
  • Deall eich bod wedi mewngofnodi i ran o wefan fel nad ydych chi'n gorfod ailddefnyddio eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair bob tro.
  • Mesur sut y byddwch chi'n defnyddio'r wefan er mwyn i ni barhau i'w gwella.

Nid yw ein cwcis yn cael eu defnyddio i'ch adnabod yn bersonol, a gallwch chi reoli neu ddileu y ffeiliau yma os y dymunwch. Ewch i AboutCookies.org am ragor o wybodaeth am gwcis a sut i'w rheoli.

Ein defnydd o gwcis

Dyma restr o'r cwcis gaiff eu gosod gan y wefan hon a'r gwasanaethau trydydd parti y byddwn ni'n eu defnyddio. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cwcis, cysylltwch â ni drwy'r

dudalen Ymholiadau

.

Mesur defnydd y wefan (Google Analytics)

Rydyn ni'n defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut y bydd pobl yn defnyddio'r wefan. Rydyn ni'n gwneud hyn er mwyn sicrhau ein bod yn ateb gofynion ein cwsmeriaid ac i ddeall sut allwn ni wella'r wefan.

Mae Google Analytics yn cadw gwybodaeth am y tudalennau y byddwch yn ymweld â nhw, pa mor hir ydych chi ar y safle, sut gyrhaeddoch chi'r wefan a pa ddolenni y byddwch yn eu pwyso. Dydyn ni ddim yn casglu nac yn cadw eich gwybodaeth bersonol (e.e. eich enw a'ch cyfeiriad) felly ni all y wybodaeth hon gael ei ddefnyddio i'ch hadnabod. Nid ydym yn caniatau i Google rannu ein data dadansoddol.

NamePwrpasExpires
_gaUsed to distinguish users2 flynydd
_gidUsed to distinguish users24 awr
_gatUsed to throttle request rate1 munud

Am ragor o wybodaeth am y cwcis a osodir gan Google Analytics, gweler gwefan Google Code.

Cwcis i reoli eich ymweliad cyfredol

Rydyn ni'n defnyddio un cwci i reoli eich sesiwn gyfredol ar y wefan. Mae'n cael ei ddefnyddio at sawl diben, gan gynnwys:

  • Cofio os ydych chi wedi mewngofnodi i ran o'r wefan.
  • Cofio cynnwys eich basged wrth ddefnyddio Siop Amgueddfa Cymru.
EnwCynnwys cyffredinTerfynu
PHPSESSIDRhif ar hapPan fyddwch chi'n cau'r porwr

Gwasanaethau Rhwydweithio Cymdeithasol Trydydd Parti

Os ydych chi'n dewis defnyddio gwasanaethau rhwydweithio cymdeithasol ar ein gwefan bydd cwcis gan wefannau trydydd parti fel Facebook, Google a Twitter yn cael eu cadw ar eich cyfrifiadur. Caiff rhain eu defnyddio i ddarparu ffwythiannau ychwanegol, fel eich galluogi i ‘hoffi' neu rannu erthygl, blog neu ddigwyddiad ar ein gwefan.

Facebook

Gall y cod a ddarperir gan Facebook osod cwcis. Am ragor o wybodaeth gweler:

Google+

Gall y cod a ddarperir gan Google ar gyfer Google+ osod cwcis. Am ragor o wybodaeth gweler:

Twitter

Gall y cod a ddarperir gan Twitter osod cwcis. Am ragor o wybodaeth gweler:

Dileu Cwcis

Mae’r rhan fwyaf o borwyr (Firefox, Internet Explorer, Google Chrome, Opera, Safari ac ati) yn eich galluogi chi i ddileu pob cwci/cwci penodol sydd wedi eu cadw ar eich dyfais.

Gallwch chi weld gwybodaeth bellach am ddewisiadau eich porwr chi drwy ddilyn y dolenni canlynol:

Gall defnyddwyr ffonau symudol edrych ar lyfr cyfarwyddiadau eu dyfais i ganfod sut i ddileu cwcis y mae eu porwr yn eu defnyddio.

Fel arfer, dim ond dileu cwcis sydd wedi eu cadw ar eich dyfais ar hyn o bryd wnaiff hyn. Rhaid i chi newid dewisiadau eich porwr (uchod) i atal cwcis rhag cael eu cadw yn y dyfodol. Gall dileu cwcis sydd wedi’u cadw ar eich dyfais effeithio ar hwylustod defnyddio’r wefan.