Rhoddion er cof

Cofiwch rywun annwyl gyda rhodd i Amgueddfa Cymru

Os oedd rhywun annwyl i chi’n angerddol am Amgueddfa Cymru yn ystod ei oes, gallai rhoi rhodd er cof amdano fod yn ffordd deimladwy i ddathlu eu bywyd.

Gifts in-memory can be donated towards a specific project or area of our work, or can be donated to us on a general basis.Gellir cynnig rhoddion er cof tuag at broject arbennig neu faes penodol o’n gwaith, neu gellir eu rhoi i ni ar sail gyffredinol.

Mae sawl ffordd o drefnu rhoddion er cof, er enghraifft;

  • drwy sefydliadau trydydd parti fel JustGiving neu MuchLoved,
  • drwy drefnydd angladdau,
  • yn uniongyrchol drwy ein gwefan, or
  • noddi cyflwyniad ar safle, er enghraifft mainc neu blannu coeden yn un o’n hamgueddfeydd.

Os hoffech drafod rhodd er cof, cysylltwch â ni.