Haelioni Unigol

Mae eich cefnogaeth yn hanfodol. Fel rhoddwr unigol o bwys, byddwch chi’n ein helpu ni i wireddu ein gweledigaeth o Ysbrydoli Pobl, Newid Bywydau. Rydym yn adeiladu cysylltiadau tymor hir gyda’n cefnogwyr, gan eich helpu chi i wneud argraff hirhoedlog.

Rydyn ni’n credu bod gan bawb yr hawl i gael mynediad at ac ymgysylltu â’u treftadaeth ddiwylliannol yn rhad ac am ddim. Mae eich cefnogaeth yn hanfodol bwysig. Drwy fod yn rhan o’n cylchoedd rhoi unigol, rydych chi’n helpu ni i ofalu am gasgliadau Cymru, creu arddangosfeydd, cynnal digwyddiadau a pharhau i weithio gyda chymunedau ar draws Cymru.

Mae pob un o’n cylchoedd rhoi yn darparu cyfle unigryw i ddyfnhau eich ymgysylltiad gydag Amgueddfa Cymru drwy gynnig cyfres o freintiau arbennig. Cysylltwch Caron Ann Elizabeth Jennings

.
Ymwelydd a gofalydd yn edrych ar Gelf

Cylch y Prif Weithredwr: Rhodd o £1,000

  • Gwahoddiadau i ddangosiadau preifat o arddangosfeydd mawr cyn eu bod yn agor i’r cyhoedd
  • Cyfleoedd i gwrdd ag arbenigwyr a staff curadurol mewn digwyddiadau arbennig a theithiau ‘tu ôl i’r llenni’
  • Llinell uniongyrchol at Amgueddfa Cymru gyda gohebiaeth reolaidd gan aelod o staff neilltuol
  • Cyfathrebiadau gan ein Prif Weithredwr

Ymunwch yma

Cyfrannu nawr

Cefnogwyr Cylch y Prif Weithredwr

Cylch y Cadeirydd: Rhodd o £5,000

  • Digwyddiad preifat blynyddol
  • Gwahoddiadau i ddangosiadau preifat cyn iddynt agor i’r cyhoedd
  • Cyfleoedd i gwrdd ag arbenigwyr a staff curadurol mewn digwyddiadau arbennig a theithiau ‘tu ôl i’r llenni’
  • Llinell uniongyrchol at Amgueddfa Cymru gyda gohebiaeth reolaidd gan aelod o staff neilltuol
  • Cyfathrebiadau gan ein Cadeirydd

Ymunwch yma

Cyfrannu nawr

Cefnogwyr Cylch y Cadeirydd

Curadur yn dal celf

Cysylltwch os gwelwch yn dda

Os ydych chi’n credu’n gryf mewn ysbrydoli pobl a newid bywydau ac yn awyddus i’n helpu ni i gyflawni ein dyheadau, gan sicrhau fod cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yn parhau i fwynhau, dysgu a chael eu hysbrydoli gan y gwaith yr ydym yn ei wneud, byddem wrth ein bodd yn gweithio gyda chi. I ddarganfod mwy am sut y gall eich cefnogaeth wneud gwahaniaeth, cysylltwch Caron Ann Elizabeth Jennings.