Rhoddion Rhyngwladol

Departure of Captain Scott's Antarctic expedition aboard the Terra Nova on 15th June 1910 (b/w photo)

Hiraeth am Adre

Gwell Cymry, Cymry oddi cartref? Mae ein cysylltiadau Celtaidd 'nawr yn estyn ar draws y byd - yn yr oes ddigidol, gallwn gadw mewn cysylltiad â Chymru, waeth pa mor bell oddi cartref ydyn ni.

Atgyfnerthwch eich cysylltiad â Chymru trwy gefnogi ein gwaith elusennol:

Dod yn Roddwr Rhyngwladol

Llun: Llong Capten Scott, y Terra Nova, yn gadael Caerdydd ar ei mordaith i Begwn y De

Amgueddfa Ryngwladol

Mae ein rhaglen ymchwil yn ein harwain ar draws y byd - o Gôr y Cewri i Gefnfor yr Arctig.

Yn ystod y blynyddoedd diwetha', mae rhoddion rhyngwladol wedi hwyluso nifer o brosiectau ymchwil o safon rhyngwladol:

Yn ddiweddar, cadarnhaodd wyddonwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddarganfyddiad deinosor Jwrasig newydd, wedi'i ganfod gan ddau ymwelydd i'r amgueddfa tra'n cerdded arfordir de Cymru.

Cysylltwch â ni i drafod noddi ein rhaglen ymchwil.

Llun: Dant miniog y Dracoraptor Hanigani, neu'r 'Lleidr Dreigiau', rhywogaeth Jwrasig newydd a ddarganfyddwyd gan Rob a Nick Hanigan.

DA000323

Darn o Gymru yn Dy Dŷ

Defnyddiwch ein gwasanaeth

Celf Ar Alw i brynnu printiau a chanfasau ansawdd uchel o'r casgliad cenedlaethol.

Mae'r rhain yn anrhegion delfrydol a gallwn eu postio yn rhyngwladol: dewiswch o'n casgliad o gymeriadau Cymreig, tirluniau, neu ein casgliad nodweddiadol o weithiau argraffiadol.

Siop Brintiau

Llun: 'Arfodir Penfro' gan James Dickson Innes, 1911

Ymweld â Chymru

Fel Rhoddwr Rhyngwladol hoffem ni estyn croeso cynnes i chi ar eich ymweliad â Chymru. I wneud y gorau o'ch ymweliad, mynnwch sgwrs gyda'n Tîm Datblygu.