Astudiaethau achos

Mis Hanes LHDT

Mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn dathlu Mis Hanes LHDT bob blwyddyn ers Chwefror 2013. Rydym wedi cydweithio â Gay Ammanford i arddangos eitemau o bwys iddyn nhw, creu barddoniaeth gyda Llenyddiaeth Cymru a’r Rainbow Club, wedi cynnal Diwrnod i’r Teulu ac ymgyrch gasglu, dangosiad y ffilm Pride, a threfnu cyfres o sgyrsiau a digwyddiadau. Hefyd, mae gan Amgueddfa Cymru stondin yn nigwyddiad Pride Cymru yng Nghaerdydd bob blwyddyn.

Mis Hanes Pobl Dduon

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn cael ei ddathlu bob mis Hydref, ac mae gan Amgueddfa Cymru gynrychiolaeth ar y Pwyllgor Llywio. Yn y gorffennol, rydym wedi trafod y fasnach gaethwasiaeth yng Nghymru trwy gyfrwng arddangosfa gyfoes Traed mewn Cyffion. Cynhaliwyd digwyddiadau bwyd a cherddoriaeth a sgyrsiau academaidd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Fforymau Cyfranogi

Cafodd Fforymau Cyfranogi eu sefydlu gyntaf er mwyn cynnwys cynulleidfaoedd amrywiol yn uniongyrchol yn y broses o gynllunio, datblygu a darparu amgueddfa wirioneddol gyfranogol. Cawsant eu sefydlu er mwyn ymgysylltu â chynulleidfaoedd â blaenoriaeth a sefydliadau partner allweddol, rhai ohonynt yn sefydliadau ymbarél sy’n gweithio’n lleol, yn rhanbarthol neu’n genedlaethol gyda’u defnyddwyr.

Ymhlith y Fforymau Cyfranogi mae Partneriaid Cymunedol, Fforwm Ieuenctid, Fforwm Amrywiaeth, Dysgu Ffurfiol, Dysgu Anffurfiol, Llys Llywelyn a’r Fforwm Crefftau.

Ein Hamgueddfa

Nod menter Our Museum (Saesneg yn unig), a ariennir gan Sefydliad Paul Hamlyn, oedd hwyluso proses o ddatblygu a newid sefydliadol mewn amgueddfeydd ac orielau. Roedd wyth amgueddfa ledled y DU yn rhan o’r fenter, gan gynnwys Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Roeddem am gynnig cyfle i bobl ennill sgiliau trosglwyddadwy, cynyddu eu hyder a’u sgiliau cymdeithasol, gan wella’u potensial i gael gwaith. Cafodd gwirfoddolwyr gyfle i weithio yn y gerddi hanesyddol ac ail-greu adeilad o Oes yr Haearn.

Buom yn cydweithio’n agos â’r trydydd sector a Phartneriaid Cymunedol gwirfoddol er mwyn cynyddu’r sylfaen gwirfoddolwyr a chynyddu ei amrywiaeth, gan dargedu’r rhai na fyddant wedi meddwl am wirfoddoli yn Sain Ffagan o’r blaen – dynion ifanc di-waith, pobl ddigartref, pobl anabl, pobol â salwch meddwl a rhai sy’n mynd trwy raglen adsefydlu alcohol a chyffuriau.

Mae dros 40% o’r gwirfoddolwyr yn ystyried eu hunain yn ddi-waith, ac rydyn ni’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn well.

Dementia

Mae Amgueddfa Cymru yn cynnig hyfforddiant Ffrindiau Dementia i’w staff a phartneriaid cymunedol, ac wedi datblygu amrywiaeth eang o weithgareddau i bobl sydd â dementia a’u gofalwyr. Er enghraifft, yn 2015, trefnwyd amgueddfeydd dros dro mewn ysbytai a lleoliadau gofal ledled Cymru er mwyn ymgysylltu â phobl iau sydd â dementia. Yn fwy diweddar, rydym wedi trefnu digwyddiadau creadigol, fel gweithdai crochenwaith a theithiau tywys, ac rydym yn chwilio am ffyrdd i sicrhau fod ein safleoedd yn hygyrch i bobl â dementia. Mae ymgysylltu â gwrthrychau o gasgliadau’r amgueddfa yn gallu procio’r cof a sbarduno trafodaeth. Gall hyn gynyddu hunanbarch ac ymdeimlad o les personol ymhlith pobl sydd â chyflyrau sy’n effeithio ar y cof fel dementia.

Teithiau Sain Ddisgrifiad

Rydym yn cynnig teithiau sain ddisgrifiad o’n horielau i ymwelwyr sydd â nam ar eu golwg, gyda chymorth tywys ar gael os oes angen cymorth ychwanegol. Mae’r teithiau hyn yn cynnwys elfennau cyffyrddol a chyfleoedd i drin a thrafod gwrthrychau er mwyn cyfoethogi’r profiad. Mae’r sylwadau’n cynnwys:

‘Mae ymweld â’r Amgueddfa wedi agor byd o bosibiliadau i mi. Feddylies i erioed y byddwn i’n gallu cymryd rhan mewn pethau cyn hyn, ond mae’r digwyddiad hwn wedi rhoi hyder i mi roi cynnig ar bethau newydd’ – aelod o Sefydliad y Deillion Caerdydd
‘Cafwyd adborth gwych gan y grŵp ar y ffordd gartre’, roedden nhw’n dweud taw dyma’r daith orau iddynt ei chael ers bod â nam ar eu golwg. - Gweithiwr cymorth cymuned, RNIB

I gael rhagor o wybodaeth am waith Ymgysylltu Cymunedol Amgueddfa Cymru, neu i drafod sut all eich sefydliad chi weithio gydag Amgueddfa Cymru,

e-bostiwch yr adran Gwirfoddoli yma neu ffoniwch 029 2057 3438.