Cwestiynau cyffredin

Gwirfoddoli yn ystod Covid-19

Ydy gwirfoddoli yn dal i ddigwydd?

Rydym wedi creu system i gael gwirfoddolwyr i mewn i’r amgueddfeydd fesul cam, gyda rolau gwirfoddoli gwahanol yn dechrau ar adegau gwahanol. Mae’r system hon yn perthyn i’r lefel presennol o ragofalon ac yn dibynnu ar ba mor hawdd yw hi i’r rôl gwirfoddoli gynnal pellter cymdeithasol (e.e. efallai y bydd gwirfoddolwyr garddio wedi ailddechrau pan na fydd gwirfoddolwyr sy’n gweithio y tu wedi ailddechrau).

Os ydych eisoes yn gwirfoddoli gyda ni, gwnawn yn siŵr eich bod yn gwybod os oes modd i chi ddod i’r safle. Os nad ydych yn siŵr, e-bostiwch gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk.

Ydy recriwtio ar gyfer gwirfoddoli a lleoliadau gwaith yn digwydd ar hyn o bryd?

Gallwch chwilio am unrhyw un o’r rolau gwirfoddoli sydd ar gael fan hyn. Gallwch chwilio am unrhyw un o’r lleoliadau gwaith sydd ar gael fan hyn.

Pa fath o bethau mae gwirfoddolwyr yn eu gwneud?

Pa fathau o gyfleoedd gwirfoddoli ydych chi’n eu cynnig yn Amgueddfa Cymru?

Gall gwirfoddolwyr gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau gwahanol ar draws 7 safle’r Amgueddfa. Er enghraifft, garddio, crefftio ac egluro gwrthrychau i ymwelwyr.

Os hoffech weld rhai enghreifftiau o’r hyn y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud, edrychwch ar ein cylchlythyr Cymryd Rhan neu dilynwch ni ar Twitter.

Beth yw e-Wirfoddoli?

Mae e-wirfoddoli yn fyr am ‘Gwirfoddoli Electronaidd’. Dyma’r math o wirfoddoli sy’n eich galluogi chi i wirfoddoli o’ch cartref, gan ddefnyddio eich cyfrifiadur, eich ffôn, gliniadur neu dabled.

Er enghraifft, mae’n bosib y byddwn yn gofyn i chi ychwanegu gwybodaeth at gatalog yr Amgueddfa er mwyn cynorthwyo pobl sy’n defnyddio’r catalog i ddod o hyd i’r hyn y maen nhw’n chwilio amdano.

Sut ydw i’n gwirfoddoli?

Mae’r broses o ddechrau gwirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru yn syml. Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw dilyn yr atebion i’r cwestiynau isod, a fydd yn egluro cam-wrth-gam sut mae dechrau gwirfoddoli gyda ni.

Mae’r atebion hefyd yn rhoi gwybodaeth ar hygyrchedd, y Gymraeg, treuliau, buddiannau gwirfoddoli, gwiriadau heddlu, gwirfoddoli os nad ydych yn dod o’r DU, cyfyngiadau oedran ar wirfoddoli a gwirfoddoli os ydych yn derbyn budd-daliadau lles.

Ceir hefyd cyfres o gwestiynau sy’n darparu gwybodaeth ar y modd y byddwn yn rheoli ac yn defnyddio eich data personol.

Sut ydw i’n dod i wybod am gyfleoedd gwirfoddoli newydd?

Caiff pob un o’n cyfleoedd gwirfoddoli ei hysbysebu ar ein gwefan fan hyn ac ar Twitter.

Sut ydw i’n cofrestru?

Os hoffech gofrestru ar gyfer rôl gwirfoddoli, darllenwch drwy’r disgrifiad rôl yn ofalus a meddyliwch am p’un a fyddai’r rôl yn addas ar eich cyfer.

Os ydyw, cwblhewch y ffurflen gofrestru sydd ar gael ar waelod y dudalen we gyda’r disgrifiadau rôl fan hyn.

Anfonwch y ffurflen wedi’i chwblhau i ni drwy e-bost i gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk neu drwy’r post i Adran Gwirfoddoli, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP.

Beth alla i wneud os oes angen cymorth ychwanegol arnaf wrth ymgeisio am rôl?

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch er mwyn deall ffurflen gofrestru, gallwch naill ai e-bostio’r Adran Gwirfoddoli gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk, neu ein ffonio ar (029) 2057 3002.

Gallwn wedyn fynd drwy’r ffurflen gyda chi. Rydym hefyd yn gallu llenwi ffurflen gofrestru ar eich rhan dros y ffôn os oes angen.

Pa mor hygyrch yw eich rolau gwirfoddoli?

Rydym yn ymdrechu i sicrhau fod cynifer â phosib o’n rolau yn hygyrch. Rydym yn ceisio cynnal sesiynau gwirfoddoli mewn ystafelloedd sy’n hygyrch ac yn hawdd i’w cyrraedd. Fodd bynnag, oherwydd bod ein hamgueddfeydd naill ai’n cynnwys adeiladau hanesyddol, neu wedi eu lleoli mewn adeiladau cofrestredig, ni fydd hyn bob tro’n bosibl.

Bydd pob rôl yn nodi os oes cyfyngiadau hygyrchedd neu os oes pethau y mae’n bosib y bydd angen i chi eu hystyried. Os oes angen gwneud unrhyw addasiadau rhesymol ar eich cyfer, rhowch wybod i ni a gwnawn ein gorau i ddiwallu eich anghenion.

Faint o amser sydd angen i mi ei roi?

Bydd pob disgrifiad rôl yn dweud pryd a pha mor hir yw pob sesiwn gwirfoddoli, er enghraifft mae’r gofalwyr cadwraeth yn cwrdd bob dydd Mawrth, 10am-1pm. Mae hyn er mwyn eich helpu i amcangyfrif pryd fyddwch chi ar gael.

Mae sawl un o’n rolau yn hyblyg ac rydym yn gwneud ein gorau glas i ddiwallu eich anghenion.

Pa sgiliau a phrofiad sydd eu hangen arnaf?

Bydd disgrifiad y rôl yn crybwyll os yw’r rôl yn gofyn am sgiliau neu brofiad penodol, ond yn y rhan fwyaf o achosion, mae brwdfrydedd ac angerdd am y pwnc yn fwy pwysig na phrofiad.

Oes cyfyngiadau oedran?

Rydym yn derbyn gwirfoddolwyr oed 14+, 16+ neu 18+. Mae gofynion oedran yn ddibynnol ar y rôl ac maen nhw wedi eu diffinio yn glir yn nisgrifiad y rôl. Mae gennym yn ogystal fforymau ieuenctid i bobl rhwng 14 a 25 oed.

Oes angen i fi allu siarad Cymraeg er mwyn gwirfoddoli?

Nid yw’r mwyafrif o’n rolau gwirfoddoli yn gofyn eich bod yn medru’r Gymraeg.

Os yw rôl yn gofyn eich bod yn siarad Cymraeg bydd hynny’n cael ei nodi’n glir yn nisgrifiad y rôl.

Os ydych chi’n dysgu Cymraeg, gall gwirfoddoli gyda ni fod yn gyfle gwych i ymarfer fel rhan o’r rôl. Mae pob croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Ydych chi’n derbyn gwirfoddolwyr o dramor?

Ydyn. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio os yw eich visa yn dweud eich bod yn gallu gwirfoddoli.

A fydd angen i mi gael gwiriad gan yr heddlu?

Mae hyn yn ddibynnol ar y rôl gwirfoddoli a bydd yn cael ei nodi yn nisgrifiad y rôl.

A fyddaf yn cael fy nhalu?

Na. Nid yw ein gwirfoddolwyr yn cael eu talu. Ewch i’n tudalen we Swyddi i gael rhagor o wybodaeth ar gyrsiau hyfforddiant, prentisiaethau a/neu gyfleoedd â thâl.

Ydych chi’n talu costau teithio?

Ydyn. Rydym yn talu mân dreuliau teithio i wirfoddolwyr.

Ydw i’n derbyn unrhyw beth am wirfoddoli?

Mae ein gwirfoddolwyr yn derbyn mân dreuliau teithio, geirdaon, a gostyngiadau yn ein siopau, caffi, ar gyrsiau ac arddangosfeydd.

Byddwch chi hefyd yn rhan o gymuned Amgueddfa Cymru, lle y bydd modd i chi wneud ffrindiau newydd, cymryd rhan mewn digwyddiadau ychwanegol cyffrous megis partis haf a gaeaf blynyddol i wirfoddolwyr a’r Wythnos Gwirfoddolwyr.

Mae partis yn y gorffennol wedi cynnwys mynediad arbennig i arddangosfeydd a theithiau o’r casgliadau tu ôl i’r llenni na fyddai fel arfer ar gael i’r cyhoedd.

Sut ydych chi’n defnyddio fy nata personol?

Sut ydych chi’n cadw fy nata personol yn ddiogel?

Rydym yn storio eich data personol yn unol â deddfwriaeth data gyfredol. I gael gwybodaeth lawn edrychwch ar ein Polisi Preifatrwydd Gwirfoddolwr yma.

Mae angen yr holl wybodaeth yr ydym yn gofyn amdani ar y ffurflen gofrestru a/neu ar y ffurflen ymholi er mwyn gallu prosesu eich cais.

Ydych chi’n gallu cadw fy ngwybodaeth? Oes gyda chi restr bostio?

Na. Heblaw eich bod yn dechrau rôl gwirfoddoli gyda ni, ni allwn ddal gafael ar eich ffurflen gofrestru am fwy na 3 mis. Rydym ond yn ei gadw am y cyfnod hwn er mwyn prosesu eich cais. Dyna pam nad oes modd i ni ddal gafael ar ffurflenni cofrestru neu e-byst ymholi, hyd yn oed os gofynnwch i ni wneud rhag ofn bod rhywbeth yn codi yn y dyfodol.

Sut ydw i’n stopio gwirfoddoli?

Os nad oes modd i chi barhau i wirfoddoli gyda ni, yr unig beth fydd angen i chi wneud yw rhoi gwybod i ni drwy naill ai e-bostio’r Adran Gwirfoddoli gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk, neu drwy’n ffonio ni ar (029) 2057 3002. Byddwn yn anfon Pecyn Gadael i chi naill ai’n ddigidol neu drwy’r post.

Bydd hwn yn rhoi manylion i chi ynglŷn â’r tri opsiwn y gallwch eu cymryd wrth adael eich rôl wirfoddol gydag Amgueddfa Cymru.

Yr opsiwn cyntaf yw parhau fel Gwirfoddolwr Digwyddiadau. Mae hon yn rôl hyblyg ac mae’n bosib i chi roi gymaint o amser, neu gyn lleied o amser ag y dymunwch; mae’n ymwneud â chynorthwyo gyda digwyddiadau a gweithgareddau yn yr Amgueddfeydd.

Neu gallwch ddewis ymuno â’n Rhaglen Alumni Gwirfoddolwr. Bydd hwn yn eich galluogi i aros mewn cysylltiad â’r Adran Girfoddoli drwy dderbyn e-byst ynghylch cyfleoedd newydd a chopi o Cymryd Rhan. Yn ogystal, gallwch barhau i helpu gwaith yr Adran Gwirfoddoli yn Amgueddfa Cymru drwy weithredu fel llysgennad ar gyfer gwaith yr Adran yn eich cymuned leol.

Yr opsiwn olaf yw gadael y rhaglen gwirfoddoli. Mae dewis yr opsiwn hwn yn golygu na fyddwch bellach yn wirfoddolwr gyda’r Amgueddfa ac ni fyddwch yn derbyn unrhyw gyfathrebion pellach (er enghraifft e-byst, neu bost) gennym ni.

Bydd angen i ni gadw eich data am 6 mlynedd er mwyn rhoi geirda i chi petaech chi’n gofyn amdano. Bydd eich data’n cael ei symud i ardal gadw ddiogel ac yn cael ei ddefnyddio am y rheswm yma’n unig. Caiff y data hwn ei ddileu yn awtomatig ar ôl 6 mlynedd.

Lleoliadau Datblygu Sgiliau a Lleoliadau Gwaith

Beth yw Lleoliadau Datblygu Sgiliau?

Cyfle i bobl dros 18 oed sy’n wynebu rhwystrau at gyflogaeth i ennill sgiliau a phrofiad drwy wirfoddoli yw Lleoliadau Datblygu Sgiliau.

Rydym yn gweithio’n agos gydag unigolion er mwyn teilwra lleoliadau sy’n cyd-fynd â’u diddordebau a’u hanghenion.

Beth yw Lleoliadau Gwaith?

Mae Lleoliadau Gwaith yn gyfle i fyfyrwyr dros 18 oed i ennill profiad-wrth-weithio, gan archwilio opsiynau gyrfa a datblygu eu sgiliau ymhellach.

Faint o amser fydd angen imi roi?

Mae Lleoliadau wedi eu cynllunio a’u teilwra i unigolion. Ceir uchafswm amser, er enghraifft mae ein lleoliadau fel arfer yn para am uchafswm o 6 mis. Gellir canfod rhagor o wybodaeth fan hyn.

Sut i ymgeisio?

Os hoffech ymgeisio am leoliad, gallwch chi naill ai e-bostio’r Adran Gwirfoddoli gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk, neu ein ffonio ar (029) 2057 3002.

Byddwn yn anfon y ffurflen ymholiad lleoliad atoch i’w lenwi.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r ffurflen gellir ei ddychwelyd i ni drwy e-bostio gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk neu drwy bostio at Adran Gwirfoddoli, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP.

Rhowch wybod i ni ym mha amgueddfa neu adran yn yr amgueddfa yr hoffech ymgymryd â’ch lleoliad gan y bydd hyn yn ein helpu i ddod o hyd i’r ffordd orau o ddelio â’ch ymholiad.

Mae’r galw am leoliadau yn fawr ac mae hyn yn anffodus yn golygu nad oes modd i ni gynnig lleoliad i bawb.

Beth ydw i’n ei wneud os oes angen cymorth ychwanegol arnaf wrth wneud cais am leoliad?

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch er mwyn deall y ffurflen ymholiadau, gallwch naill ai e-bostio’r Adran Gwirfoddoli gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk, neu ein ffonio ar (029) 2057 3002.

Gallwn wedyn fynd drwy’r ffurflen gyda chi. Rydym hefyd yn gallu llenwi ffurflen gofrestru ar eich rhan dros y ffôn os oes angen.

Rwy’n Fyfyriwr Tramor, alla i ymgeisio am leoliad?

Yn anffodus na, nid ydym mewn safle lle y gallwn dderbyn myfyrwyr tramor ac mae’n rhaid i bob ymgeisydd fod yn astudio ac yn byw yn y DU er mwyn cymryd rhan.