Cwestiynau Cyffredin

Sut mae cysylltu â'r Adran Gwirfoddoli?

Gallwch chi gysylltu â ni drwy e-bostio gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk neu ffonio (029) 2057 3002. Drwy'r post: Adran Gwirfoddoli, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd, CF5 6XB.

Sut alla i gael gwybod am gyfleoedd gwirfoddoli newydd?

Rydyn ni'n hysbysebu ein holl rolau yma ar y wefan. Rydyn ni'n hysbysebu pob rôl i'w gwneud mor deg a hygyrch â phosib.

Allwch chi gadw fy ngwybodaeth? Oes gennych chi restr bostio?

Wrth gwrs, gallwch chi gofrestru ar gyfer ein Rhestr Bostio. Byddwn ni’n holi am eich diddordebau, a gwnewch yn siŵr eich bod yn ticio'r blwch 'Gwirfoddoli' neu 'Lleoliadau' er mwyn derbyn e-bost yn llawn cyfleoedd newydd pan fyddan nhw’n cael eu hysbysebu. Gallwch chi atal y tansygrifiad unrhyw bryd.

Sut ydw i'n cofrestru/gwneud cais?

Pan fydd cyfleoedd ar gael gallwch chi lawrlwytho Ffurflen Gofrestru, ei llenwi a’i dychwelyd. Mae croeso i chi gysylltu os ydych chi'n cael trafferth llenwi'r ffurflen. Gallwn ni lenwi'r ffurflen dros y ffôn gyda chi, neu dderbyn ceisiadau drwy fideo neu glip sain byr. Cysylltwch i drafod.

Pa mor hygyrch yw eich rolau gwirfoddoli?

Ein nod yw gwneud cymaint o'n rolau mor hygyrch â phosib. Rydyn ni'n ceisio cynnal ein sesiynau gwirfoddoli mewn ystafelloedd sy'n hygyrch a hawdd eu cyrraedd. Ond gan fod ein hamgueddfeydd yn cynnwys adeiladau hanesyddol neu yn adeiladau rhestredig eu hunain, efallai na fydd yn bosib bob tro. Bydd pob disgrifiad rôl yn nodi a oes unrhyw gyfyngiadau hygyrchedd neu bethau y gall fod angen i chi eu hystyried. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch chi, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ein gorau glas i'w bodloni.

Faint o amser sy’n rhaid i mi ei roi?

Bydd pob disgrifiad rôl yn esbonio amser a hyd pob sesiwn wirfoddoli – er enghraifft mae'r gwirfoddolwyr cadwraeth yn cyfarfod bob dydd Mawrth rhwng 10am ac 1pm. Y nod yw eich helpu i weld os rydych chi ar gael. Mae hyn wedi’i restru dan 'Oriau ac Ymrwymiad’.

Beth mae gwirfoddolwyr yn ei dderbyn?

Gall gwirfoddolwyr hawlio costau teithio, gostyngiadau yn ein siopau a mynediad i ddigwyddiadau. Efallai y byddwch chi’n cael dillad ac offer hefyd, yn dibynnu ar y rôl wirfoddoli – er enghraifft, mae gwirfoddolwyr gardd yn derbyn menig, fleece a chrysau-t.

Oes unrhyw derfynau oedran?

Rydyn ni'n croesawu gwirfoddolwyr 14+ yn dibynnol ar y rôl. Mae terfynau oedran wedi'u nodi'n glir yn y disgrifiad rôl. Mae gennym Bloedd i rai rhwng 16 a 25 oed.

Pa sgiliau neu brofiad sydd eu hangen arna i? Fyddwch chi'n darparu hyfforddiant?

Bydd pob disgrifiad rôl yn nodi'n glir unrhyw sgiliau neu brofiad sydd eu hangen i gyflawni'r rôl. Dim ond brwdfrydedd sydd ei angen fel arfer! Byddwn ni’n trefnu sesiwn gynefino i chi ac unrhyw hyfforddiant angenrheidiol.

Oes angen i fi allu siarad Cymraeg i wirfoddoli?

Does dim rhaid i chi allu siarad Cymraeg ar gyfer y rhan fwyaf o'n rolau gwirfoddoli. Os bydd gofyn i chi siarad Cymraeg ar gyfer y rôl, bydd y disgrifiad rôl yn dweud hynny'n glir. Os ydych chi'n dysgu Cymraeg, gall gwirfoddoli gyda ni fod yn gyfle gwych i ymarfer. Mae croeso i chi gysylltu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Ydych chi'n derbyn gwirfoddolwyr o dramor?

Ydyn. Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr bod eich visa yn dweud y gallwch chi wirfoddoli.

Fydd rhaid i fi gael gwiriad gan yr heddlu?

Mae hyn yn dibynnu ar y rôl, a bydd y disgrifiad rôl yn nodi hyn.

Sut ydych chi'n cadw fy ngwybodaeth bersonol yn ddiogel?

Rydyn ni'n cadw eich data personol yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol ar ddata. I gael gwybodaeth lawn edrychwch ar ein Polisi Preifatrwydd Gwirfoddolwr yma. Rydyn ni’n defnyddio’r holl wybodaeth rydyn ni’n gofyn amdani ar y ffurflen gofrestru a/neu ymholiad er mwyn gallu prosesu eich cais.