Gwirfoddoli Unigol


Cyfleon Cyfredol

Gall gwirfoddolwyr wneud cyfraniad gwerthfawr i Amgueddfa Cymru a chyfrannu at bob math o brojectau mewn wyth lleoliad ar draws Cymru. Gallwch chi daflu goleuni newydd ar ein casgliadau, ein helpu gyda gweithgareddau addysg neu i adeiladu rhai o’r adeiladau hanesyddol hyd yn oed. Dewch i gymryd rhan! Dewch i gyfrannu!

Gofynnwn i bawb sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli yn Amgueddfa Cymru i gofrestru eu diddordeb drwy lenwi Ffurflen Gofrestru (wedi ei hatodi) ar gyfer rôl wirfoddol benodol. Mae hyd pob rôl wirfoddol yn amrywio a bydd y Daflen Wybodaeth yn manylu ar hyn. Da fyddai cofio hefyd y gall y rolau yma gael eu hysbysebu gyda dyddiad cau neu fod yn agored tan i bob lle gael ei lenwi.

Does dim cyfleon i wirfoddoli ar hyn o bryd; beth am ein dilyn ar Twitter i glywed y diweddaraf am ein gwaith ac unrhyw rolau all fod ar gael yn y dyfodol.