Gwirfoddoli Unigol

  • Gwirfoddolwyr grŵp yn Sain Ffagan, yn rhoi calch ar y wal.
  • Dau wirfoddolwr yn gwisgo cotiau coch gwirfoddoli, yn gwenu tuag at y camera.
  • Gwirfoddolwr yn gwisgo crys-t gwirfoddoli coch, yn dyfrio blodau yn nôl drefol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
  • Lleoliad gwaith myfyriwr yn edrych ar arteffact bach gan ddefnyddio chwyddwydr.
  • Gwirfoddolwr yn gwenu at y camera.
  • Lleoliad gwaith myfyriwr gyda'r gof, yn gweithio yn yr efail.
  • Dau berson yn eistedd yn nyddu edafedd neu'n gwau.

Cyfleon Cyfredol

Gall gwirfoddolwyr wneud cyfraniad gwerthfawr i Amgueddfa Cymru a chyfrannu at bob math o brojectau mewn wyth lleoliad ar draws Cymru. Gallwch chi daflu goleuni newydd ar ein casgliadau, ein helpu gyda gweithgareddau addysg neu i adeiladu rhai o’r adeiladau hanesyddol hyd yn oed. Dewch i gymryd rhan! Dewch i gyfrannu!

Gofynnwn i bawb sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli yn Amgueddfa Cymru i gofrestru eu diddordeb drwy lenwi Ffurflen Gofrestru (wedi ei hatodi) ar gyfer rôl wirfoddol benodol. Mae hyd pob rôl wirfoddol yn amrywio a bydd y Daflen Wybodaeth yn manylu ar hyn. Da fyddai cofio hefyd y gall y rolau yma gael eu hysbysebu gyda dyddiad cau neu fod yn agored tan i bob lle gael ei lenwi.