Cymryd Rhan

Mae sawl ffordd i bobl ifanc ymwneud â gwaith Amgueddfa Cymru. O weithgareddau llawn hwyl y Fforwm Ieuenctid, i brojectau mwy annibynnol Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, Lleoliadau Gwaith, cyflwyno projectau personol neu feddiannu cyfrif Instagram, mae dulliau ymgysylltu sy’n gweddu i bawb. Rydyn ni am fod mor hygyrch â phosib. Cysylltwch â

bloedd.ac@amgueddfacymru.ac.uk os oes gennych chi ddiddordeb cyfrannu at unrhyw elfen o'n gwaith, neu os oes unrhyw addasiadau neu gefnogaeth ychwanegol allwn ni ei gynnig.

Logo Cronfa Dreftadaeth