Cymryd Rhan
Mae sawl ffordd i bobl ifanc ymwneud â gwaith Amgueddfa Cymru. O weithgareddau llawn hwyl y Fforwm Ieuenctid, i brojectau mwy annibynnol Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, Lleoliadau Gwaith, cyflwyno projectau personol neu feddiannu cyfrif Instagram, mae dulliau ymgysylltu sy’n gweddu i bawb. Rydyn ni am fod mor hygyrch â phosib. Cysylltwch â
bloedd.ac@amgueddfacymru.ac.uk os oes gennych chi ddiddordeb cyfrannu at unrhyw elfen o'n gwaith, neu os oes unrhyw addasiadau neu gefnogaeth ychwanegol allwn ni ei gynnig.Gofod cynhwysol i bobl ifanc yw’r Fforwm Ieuenctid sy’n cyfarfod yn rheolaidd i ymwneud â phrojectau’r Amgueddfa. Os ydych chi rhwng 14 a 25 oed ac am gyfarfod pobl ifanc eraill wrth ymwneud â phrojectau amgueddfa, ebostiwch ni gan ddefnyddio'r ebost
fforwm.ieuenctid@amgueddfacymru.ac.uk i dderbyn ffurflen gais neu i drafod ymhellach.Mae Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn bobl ifanc rhwng 16 a 25 o bob cwr o Gymru. Gyda’i gilydd maen nhw’n rhan o Bloedd AC ac yn cydweithio i ddatblygu gweithgareddau, digwyddiadau a llawer mwy wrth ddysgu mwy am gelf, diwylliant a chreadigrwydd. Bydd Bloedd yn aml yn cydweithio ag ymgyrchwyr, artistiaid, cerddorion, addysgwyr a churaduron i ddatblygu projectau newydd, ac i greu, arbrofi ac ymwneud â’n casgliadau a’n treftadaeth, ar-lein ac yn yr orielau.
Mae recriwtio Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru o bob cwr o Gymru yn broses barhaus. Os ydych chi rhwng 16 a 25 ac am ymuno, cwblhewch y ffurflen gofrestru a'i ebostio nol atom gan ddefnyddio bloedd.ac@amgueddfacymru.ac.uk er mwyn derbyn ffurflen gais fel bod modd i chi ymuno â’r rhwydwaith a derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleon, projectau a chyfarfodydd.Mae cyfrif Instagram Bloedd AC yn gyfrwng i rannu gwaith, digwyddiadau a chyfleon. Os oes gennych chi waith neu stori i’w rhannu, neu ddigwyddiad i bobl ifanc i’w hyrwyddo, cwlbhewch y
ffurflen meddiannu Instagram a'i ebostio atom gan ddefnyddio bloedd.ac@amgueddfacymru.ac.uk i drefnu. Er mwyn eich helpu i greu cynnwys ar gyfer ein cyfrif Instagram, lawrlwythwch ein canllawiau brand sydd yn cynnwys awgrymiadau brandio, delweddau stoc, dyluniadau a thempledi.Gallwn gynnig lleoliadau gwaith digidol i fyfyrwyr prifysgol yn Amgueddfa Cymru. Byddwch yn gweithio o bell i gefnogi projectau Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, neu’n cydweithio â staff yr Amgueddfa. Mae’r lleoliadau’n addas ar gyfer amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys newyddiaduraeth, hanes a mwy. Os ydych chi’n fyfyriwr prifysgol rhwng 18 a 25 oed gyda diddordeb trefnu lleoliad gwaith, cysylltwch â
bloedd.ac@amgueddfacymru.ac.uk i drafod y cyfleoedd presennol.Rhowch wybod oes gennych chi syniad am ddigwyddiad, gweithdy, gweithgaredd, sioe, ffilm ar-lein, parti neu unrhywbeth arall hoffech chi ei gynnal yn Amgueddfa Cymru. Byddwn ni’n cydweithio i drafod a datblygu eich cynnig, cyn i’r pwyllgor trefnu benderfynu os all fod yn rhan o raglen weithgareddau’r Amgueddfa am y flwyddyn. Cofiwch y all y prosesau yma gymryd amser, a na, fyddwn ni ddim yn dwyn eich syniadau ?
I rannu eich syniadau cwblhewch ein
ffurflen syniadau a'i ebostio nol atom gan ddefnyddio bloedd.ac@amgueddfacymru.ac.uk i drafod eich syniadau.