Dweud Helo

Mae’n haws cysylltu â phobol go iawn na sefydliad, felly dyma’r tîm yn cyflwyno eu hunain i chi. Rydyn ni wastad am gyfarfod â phobl newydd a’u croesawu, ac mae amrywiaeth o

ffyrdd i gyfrannu.

I holi cwestiynau, trafod syniadau neu ddweud helo, e-bostiwch

bloedd.ac.@amgueddfacymru.ac.uk

i ddechrau’r sgwrs. Neu ewch draw i weld beth rydyn ni’n ei drefnu ar ein cyfrif Instagram.

Y tîm

Llun agos o ddynes yn edrych i lawr ar addurn

Dr Sarah Younan


Mae gan Dr Sarah Younan gefndir mewn crochenwaith a chelf, cyn hynny bu'n gweithio yn y sectorau theatr, ieuenctid a gofal. Mae hi'n gweithio yn Amgueddfa Cymru fel Cydlynydd Ymgysylltu Ieuenctid gan wybod am yr holl ddigwyddiadau sy'n digwydd, mae hefyd yn helpu i sicrhau bod y prosiectau gwych sydd yn cael eu creu dan arweiniad pobol ifanc yn cymryd lle. Mae Sarah yn angerddol am ganoli lleisiau ymylol mewn sgyrsiau diwylliannol a chelf, ac am greu mwy o le i ddathlu a chefnogi lleisiau ifanc, creadigrwydd a thalent ar draws Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Llun proffil o ddyn yn syllu yn syth at y camera gyda'i freichiau wedi plethu

Dan Jewson


Mae Dan Jewson yn gweithio yn yr adran Dysgu ac Ymgysylltu â'r Gymuned yn Amgueddfa Cymru. Cyn hynny, mae wedi gweithio gyda phobl ifanc yn y sectorau treftadaeth, addysg uwch, elusennol a chyrff anllywodraethol. Fel hanesydd, mae gan Dan ddiddordeb arbennig yn y modd y gall pobl ddefnyddio’r gorffennol i ddal drych i'r presennol. I Dan, ddim sefydliadau sydd yn arddangos gwrthrychau yn unig yw amgueddfeydd. Maent yn ofod i rymuso ac mae angen defnyddio'r gwrthrychau hynny i gynyddu cyfranogiad, ymhelaethu ar leisiau ymylol, a mynnu newid.
Llun proffil hwylusydd Ieuenctid mewn lolfa yn edrych syth at y camera

Cerian Wilshere-Davies


Mae Cerian Wilshere-Davies yn hwylusydd, awdur a chreawdwr theatr. Yn ddiweddar fe raddiodd o Brifysgol Salford gyda gradd mewn ysgrifennu comedi a pherfformio. Mae ganddi ddiddordeb cryf yn hanes cwiar a bywydau pobl LHDT+. Mae Cerian yn caru gweithio gyda phobl ifanc a darganfod ffyrdd i ymgysylltu nhw gyda hanes gan sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed.
Llun o ferch ifanc yn edrych yn syth at y camera

Umulkhayr Mohamed


Mae Umulkhayr Mohamed (hi ​​/ ei) yn arlunydd, ysgrifennydd a churadur Somalïaidd o Gymru. Mae ei hymarfer artistig yn bennaf gynnwys creu delweddau artistig symudol a pherfformiadau sydd yn archwilio'r tensiwn sy'n bodoli rhwng mwynhau'r weithred o grwydro rhwng rhyddfarniad byrhoedledd a'r angen gweithredol i leoli'ch hun yn y nawr. Mae hyn yn seilio ei rôl fel Hwylusydd Ieuenctid yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, wrth iddi ymroi i gefnogi mynediad at dreftadaeth fel modd i ddeall ein hunain ac eraill yn y presennol, gan hefyd wneud lle ac amser i fedru mynd a chynnal archwiliad pellach fel rhan o'r broses. Mae gymaint mwy yn perthyn i amgueddfeydd na beth sydd ar yr wyneb, mae hyn hefyd yn wir amdanom ni hefyd. Yn ychwanegol i'w rôl yn Amgueddfa Cymru mae Umulkhayr hefyd yn rhan o'r Grŵp 'Emerging Curators Group',Rhwydwaith Celf Prydain ac yn aelod o 'Black Curators Collective', casgliad o ferched Du a churaduron nad ydynt yn ddeuaidd sy'n gweithio ledled y DU.

Llun proffil hwylusydd Ieuenctid tu allan o flaen gwrych

Kate Woodward


Mae Kate wedi bod yn gweithio fel cynhyrchydd Celfyddydau Cymunedol yn rhedeg prosiectau cyfoes, amlddisgyblaeth wedi eu hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyllid y Loteri Genedlaethol gyda phobl ifanc, artistiaid anabl a chymunedau cynhwysol. Mae Kate yn chwarae rhan yn y celfyddydau gweledol a’r sin gerddoriaeth annibynnol yn Ne Cymru ac ar draws y DU. Mae treulio amser sylweddol yn byw yn yr Emiriaeth Arabaidd Unedig a Chymru wedi dylanwadu ar eu gwaith yn y celfyddydau cynhwysol, ymarfer dan arweiniad y gymuned a phwysigrwydd aml ddiwylliant.