Cynaliadwyedd

Creu Amgueddfa Cynaliadwy
Mae'r tudalennau cynaliadwyedd yn cael ei diweddaru.
Ein nod yw datblygu arferion cynaliadwy wrth gynnal ein saith amgueddfa ac i hyrwyddo byw'n gynaliadwy drwy ein digwyddiadau a'n rhaglenni addysg.
Mae cadw trysorau'r genedl yn ddiogel ac agor ein drysau i 1.67 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn yn defnyddio llawer o ynni. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf rydym ni wedi cymryd camau mawr i leihau ein hôl troed carbon drwy fuddsoddiad ariannol ac ymroddiad ein staff.
Mae pob un o’r saith amgueddfa genedlaethol wedi derbyn gwobr Cynllun Safon Seren BS 8555 Cam Tri sy’n cydnabod rheoli amgylcheddol effeithiol. Rydym hefyd yn gweithio'n agos â'r Ymddiriedolaeth Garbon ac wedi rhoi ei hargymhellion ar waith yn dilyn cyfres o asesiadau ynni. Mae ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys Technoleg Carbon Isel, bod yn rhan o Ymrwymiad Lleihau Carbon y Llywodraeth a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
