Ailgylchu

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Amgueddfa Cymru wedi llwyddo i gynyddu ei hymdrechion ailgylchu yn sylweddol ym mhob Amgueddfa. Mae’r diolch am hyn yn mynd i’r staff ac i welliannau ym maes ailgylchu gwastraff.

Ailgylchu, ailgylchu, ailgylchu...

Mae Amgueddfa Cymru wrthi’n lleihau gwastraff na ellir ei ailgylchu. Defnyddir prosesau amrywiol gan ddibynnu ar leoliad y gwahanol amgueddfeydd, ond anogir staff ac ymwelwyr i ailgylchu gwastraff ym mhob un o’n hamgueddfeydd.

Nid yw pob cemegyn yn wael!

Mae Amgueddfa Cymru’n defnyddio amrywiaeth eang o gemegau wrth ei gwaith. Rydym yn ymdrechu fwyfwy i osgoi gwastraffu’r deunyddiau hyn. Mae peth gwastraff yn anochel fodd bynnag. Bydd peth o’r gwastraff hwn yn cael ei losgi ond mae cyfran ryfeddol o wastraff cemegol yn cael ei ailddefnyddio mewn prosesau diwydiannol amrywiol.