Mae gwyddonwyr a churaduron Amgueddfa Cymru yn cynyddu ein gwybodaeth am faterion yn ymwneud â datblygiad cynaliadwy. Nod mwyafrif ein hymchwil craidd yw gwella ein dealltwriaeth o’n hamgylchfyd naturiol a diwylliannol. Cyflwynir rhai esiamplau o’r gwaith yma ond gallwch chi archwilio ein gwaith a’n casgliadau ymhellach yma.

Archwilio gwely’r môr

Mae Amgueddfa Cymru a’r Arolwg Daearegol Prydeinig (BGS) wedi bod ynghlwm â phroject mawr yn edrych ar wely’r môr ym Môr Hafren Allannol. Defnyddir yr ardal hon at sawl diben, o hamdden i garthu tywod. Mae’n hanfodol felly cael dealltwriaeth dda o wely’r môr i sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu cynnal a’u cadw.

Adeiladau hanesyddol

Mae deall sut y cai adeiladau eu hadeiladu yn y gorffennol yn rhoi cyngor gwych i ni wrth ddatblygu cynlluniau cynaliadwy heddiw. Mae’r bobl fu’n ei ddefnyddio dros y canrifoedd wedi siapio pob rhan o adeilad o’r fath. Ein cyfrifoldeb ni yw adlewyrchu’r defnydd hwnnw a thwrio i hanes cudd yr adeilad. Sut y cafodd ei adeiladu, ble oedd yr adeilad a sut y cai ei ddefnyddio? Mae’r dehongliadau yma’n dibynnu’n fawr ar arbenigedd ein Uned Adeiladau Hanesyddol, ynghyd â’n harbenigwyr amgueddfa, artistiaid ac academyddion o bob cwr o Ewrop.

Wedi oes yr ia

Pan oedd yr Oes Ia ddiwethaf ar ei hanterth, tua 18,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd Cymru yn annrhigiadwy; byddai llen ia yn gorchuddio’r wlad gyfan bron. Wrth i’r llenni ia gilio i’r gogledd hawliodd pobl y tir yn ôl, a gwelir y dystiolaeth gynharaf o fyw yng Nghymru o ogofau yn dyddio o tua 15,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae gwaith archaeolegwyr yr Amgueddfa ac eraill wedi datguddio tystiolaeth am y bobl yma o ganol oes y cerrig.

Pan rewodd Antartica’n gorn

Mae gwyddonwyr o Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd wedi canfod tystiolaeth o newid hinsawdd yn y gorffennol, sy’n datrys peth o’r dirgelwch am y llen ia anferth a ymddangosodd yn Antartica 34 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Sut oerodd glo’r hinsawdd 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl

Yn Ne Cymru mae’r graig llawn glo sydd wedi’i dinoethi orau yn Ewrop. Mae gwyddonwyr yn Amgueddfa Cymru yn arwain tîm rhyngwladol o arbenigwyr sy’n ymchwilio i sut effeithiodd ffurfio’r glo yma ar gyfansoddiad yr atmosffer hynafol.

Y planhigion prinnaf yng Nghymru

Mae gan Gymru gyfoeth o blanhigion am wlad fechan. Mae’r cerrig a’r dirwedd amrywiol, o galchfaen Penrhyn Gŵyr i garreg laid a cherrig folcanig Eryri yn gartref i nifer o blanhigion gwahanol ac arbennig. Mae deall bioamrywiaeth planhigion o’r fath yn rhan bwysig o warchod ein tirlun a chadw rhywogaethau prin ac sydd mewn perygl.

Dylunio Arddangosfeydd Cynaliadwy

Mae tipyn o adnoddau yn cael eu defnyddio i ddatblygu arddangosfeydd. Mae ein huned arddangosfeydd yn edrych ar ffyrdd o wneud dylunio ac adeiladu arddangosfeydd yn fwy cynaliadwy. Rhaid i ddylunydd fabwysiadu dull holistaidd o weithio os am wneud ei waith yn gynaliadwy, dull sy’n ateb anghenion tair conglfaen datblygu cynaliadwy: cyfrifoldeb cymdeithasol, gwarchod yr amgylchedd a datblygiad economaidd.