Ein Polisïau

Mae Amgueddfa Cymru wedi datblygu polisïau creiddiol sydd â’r nod o wneud datblygiad cynaliadwy yn rhan o’i gweithrediad. Yn ogystal â hyn, ceir polisïau i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, a chynaladwyedd yn ein treftadaeth ddiwylliannol.

Mae Cynllun Safon Amgylcheddol Seren BS 8555 yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd sefydliad. Diolch i gefnogaeth ein staff, mae’r Amgueddfa gyfan bellach wedi cyrraedd Cam 3.

Creu Dyfodol Cynaliadwy Gyda’n Gilydd

Mae Cymru ymhlith y gwledydd prin sydd wedi mabwysiadu egwyddorion datblygu cynaliadwy yn sail i Lywodraeth Cymru. Yn sgil hynny, mae Amgueddfa Cymru wedi mabwysiadu fframwaith polisi gweithredu ar ddatblygiad cynaliadwy.

Polisi a Chynllun Gweithredu Caffael Cynaliadwy

Mae Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i sicrhau prosesau caffael cynaliadwy. Disgrifir caffael cynaliadwy yn aml fel prynu nwyddau neu wasanaethau mewn modd sy’n rhoi gwerth am arian ar sail oes gyfan.

Polisi Ynni

Mae ein Polisi Ynni’n dangos ein hymroddiad i gyrraedd targedau lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Pa mor llwyddiannus ydym ni?

Yma fe welwch chi enghreifftiau o’n defnydd o ynni, targedau ailgylchu, archwiliadau bioamrywiaeth a thystysgrifau ynni ein hadeiladau. I gael blas ar ein cynnydd diweddar, gwyliwch y fideo hwn gan yr Ymddiriedolaeth Garbon (Saesneg yn unig):