Yn eiriol dros yr achos

Mwydod!

Mwydod! Y da, y drwg a’r hyll

Fforwm Datblygu Cynaliadwy

Ers 2004, mae gan yr Amgueddfa Fforwm Datblygu Cynaliadwy sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob un o safleoedd y corff. Mae’n cwrdd yn chwarterol i adolygu’r gwaith, monitro cynnydd a thrafod cyfleoedd ym maes cynaliadwyedd ar draws Amgueddfa Cymru. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei rhannu â’r Uwch Dîm Rheoli er mwyn symud camau gweithredu yn eu blaen a chwilio am ffynonellau nawdd priodol. Bydd y Fforwm yn cefnogi’r gwaith o roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Deddf yr Amgylchedd ar waith a hefyd yn cefnogi’r Hyrwyddwyr Cynaliadwyedd i hyrwyddo a sicrhau arfer da yn ein holl weithgareddau beunyddiol.

Mae gennym Hyrwyddwyr Cynaliadwyedd sy’n ceisio sicrhau fod adrannau’n gwneud eu gorau i helpu’r Amgueddfa i fod yn fwy cynaliadwy. Maent yn hyrwyddo arferion cynaliadwy yng ngwaith beunyddiol y corff, boed hynny ar lefel adrannol neu safle.

Mae esiamplau o’u gwaith yn cynnwys:

Bag am oes

Yn ein siopau, rydym yn gwerthu bagiau papur am 5c ac yn falch o nodi fod y defnydd o fagiau plastig wedi gostwng 70% ers dechrau codi tâl.

Rydym yn mynd ati’n fwriadol i chwilio am gynnyrch gan gwmnïau Cymreig a Phrydeinig er mwyn lleihau ôl troed carbon y nwyddau a werthir. Pan fyddwn yn cynhyrchu ein nwyddau ein hunain, rydym hefyd yn ceisio peidio â chynhyrchu deunydd pecynnu diangen.

Lle bynnag y bo’n briodol, rydym yn prynu rhoddion, teganau a llyfrau sy’n tynnu sylw at faterion cynaliadwyedd - boed y rheini ar gyfer plant oedran ysgol neu oedolion.

Mwydy

Mae arddangosfa ‘Mwydod! Y da, y drwg a’r hyll’ yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnwys Mwydy byw sy’n llawn compost a mwydod. Diben y rhan hwn o’r arddangosfa yw esbonio pwysigrwydd mwydod mewn gwe bwyd ac ecosystemau.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Mae Tîm Gwyrdd y Glannau yn trafod ffyrdd o wella defnydd ynni, rheoli gwastraff, gwybodaeth i’r cyhoedd a’r mannau cefn tŷ.

Maent ymhlith sefydlwyr Fforwm Carbon Isel Bae Abertawe sy’n trafod ffyrdd o leihau Co2 yn yr ardal, gan gynnwys trwy’r adeiladau, rhwydwaith o fannau gwefru cerbydau trydan a theithio cynaliadwy.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynnal ystod o weithgareddau, gan gynnwys ffair werdd, gweithdai ailgylchu ac ail-greu a ffeiriau rhannu dillad a llyfrau.