Peintio'r Amgueddfa'n Wyrdd

Cynaliadwyedd
Cynaliadwyedd

Mae Amgueddfa Cymru’n Amgueddfa amlddisgyblaeth sy’n gweithredu ar wyth safle gwahanol. Drwy ddefnyddio arbenigedd ein staff a chyngor nifer o bartneriaid, rydym wedi bod wrthi’n ceisio deall amgylchedd yr Amgueddfeydd yn well, eu cynefinoedd a sut y gellir eu rheoli’n fwy cynaliadwy.

Arddangosfeydd

Bydd cynlluniau datblygu Amgueddfa Cymru yn gosod cynaliadwyedd wrth wraidd ei negeseuon allweddol. Bydd Amgueddfa Genedlaethol Hanes Natur yn cael ei datblygu yng nghanolfan ddinesig Caerdydd fydd yn cyfrannu’n sylweddol at drafodaethau cyfoes ym meysydd cynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd a dirywiad bioamrywiaeth.

Dylunio Arddangosfeydd Cynaliadwy

Mae llawer o adnoddau’n cael eu defnyddio wrth ddatblygu arddangosfeydd. Mae ein Huned Arddangosfeydd yn ystyried dulliau o sicrhau fod dylunio ac adeiladu arddangosfeydd yn fwy cynaliadwy. Er mwyn i ddylunydd allu gweithredu’n gynaliadwy, rhaid defnyddio dull holistaidd sy’n mynd i’r afael â’r gwahanol anghenion yn seiliedig ar dair egwyddor datblygu cynaliadwy, sef cyfrifoldeb cymdeithasol, diogelu’r amgylchedd a datblygiad economaidd.

Trafnidiaeth Gynaliadwy

Mae’r term hwn yn cyfeirio at unrhyw ddull trafnidiaeth sydd ag effaith isel ar yr amgylchedd, gan gynnwys cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus effeithlon. Mae’r Amgueddfa wedi llunio cynlluniau teithio ar gyfer nifer o’i safleoedd gyda’r nodau canlynol:

  • Annog ei staff a’i hymwelwyr i ddefnyddio dulliau cynaliadwy o deithio i’r Amgueddfeydd
  • Lleihau nifer y teithiau car
  • Codi ymwybyddiaeth o’r dewisiadau trafnidiaeth sydd ar gael ar gyfer y safle.

Cynllun Teithio Sain Ffagan

Cynaliadwyedd a deddfwriaeth newydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo dwy ddeddf newydd:

  • Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
    Nod y Ddeddf yw sicrhau rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, darpariaeth hirdymor o fuddion economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol a sicrhau na cheir effaith andwyol ar hyfywedd ecosystemau a’u manteision.
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
    Lles hirdymor, economi lewyrchus, amgylchedd iach a chydnerth, a chymunedau bywiog a chydlynus.

Er bod y ddwy Ddeddf yn trafod cynaliadwyedd mae rhannau penodol o’r ddwy Ddeddf sy’n gosod dyletswyddau a chyfrifoldebau ar yr Amgueddfa.

Y Ddôl Drefol a Gwenyn y Ddinas

I ymateb i Gynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pryfed Peillio gan Lywodraeth Cymru (2013), datblygodd yr Amgueddfa broject y Ddôl Drefol a Gwenyn y Ddinas. Datblygwyd darn o borfa yn ddôl a gosodwyd pedwar cwch gwenyn ar y to, er mwyn i ni allu adrodd stori gyflawn peillio.

Cafodd y project ei reoli’n gynaliadwy. Daeth yr hadau a’r planhigion ifanc o fan lleol a restrwyd yn gyflenwr cymeradwy gan Flora Locale and Plantlife (Saesneg yn unig). Dim ond compost heb fawn gafodd ei ddefnyddio a chymerodd grwpiau cymunedol ran yn y gwaith.

Mae blodau a phlanhigion wedi ffynnu yno. Yn 2009, dim ond 12 rhywogaeth o blanhigyn a gofnodwyd, ond erbyn hyn mae dros 50 o rywogaethau yno dros fisoedd yr haf. Daeth Dr Mike Wilson o hyd i chwe rhywogaeth o sboncyn y dail a sboncyn planhigion yn ein dôl hefyd, a thua 150 o sbesimenau ym mhob metr sgwâr. Felly, mae’n bosibl fod cynifer â 29,000 o sboncwyr yn ein dôl. Mewn man samplo cyfatebol, dim ond 10 sbesimen gafodd Mike hyd iddynt.

Gwella ein hamgylchedd

Ar ddiwrnod cenedlaethol y dolydd yn 201, cynhaliwyd gweithdy adnabod planhigion i ymwelwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddolydd. Dyma un o dros 100 o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ym mhob cwr o’r DU a rhan o broject Plantlife, Save Our Magnificent Meadows.