Hyrwyddo Cynaladwyedd

Ein nod yw hyrwyddo byw’n gynaliadwy trwy ein harddangosfeydd, ein digwyddiadau a’n rhaglenni dysgu. Rydym ni hefyd yn gweithio’n agos iawn â phartneriaid yr Ymddiriedolaeth Garbon.

‘The Great British Beach Clean’

Mae’r Amgueddfa wedi bod yn cymryd rhan yn y digwyddiad blynyddol hwn (Beachwatch, gynt) ar draeth Aberogwr ers degawd a mwy. Cynhelir y digwyddiad gan y Gymdeithas Gadwraeth Forol. Mae gwyddonwyr a swyddogion addysg yr Amgueddfa wedi annog teuluoedd i ddysgu mwy am yr amgylchedd lleol, anifeiliaid a gwymon y pyllau cerrig a’r draethlin a ffosilau cyn mynd ati i lanhau’r traeth. Mae’n rhan o raglen ar draws y Deyrnas Unedig i lanhau traethau a chofnodi sbwriel gyda’r nod o helpu pobl ym mhob cwr o’r Deyrnas Unedig i ofalu am yr arfordir.

Cynaliadwyedd

Archwilio Natur yn Sain Ffagan

Mae Sain Ffagan yn lle gwych i gael blas ar fywyd gwyllt Cymru ac i weld rhai o’r anifeiliaid sydd fwyaf mewn perygl ym Mhrydain. Dewch am dro drwy’r coed i’n cuddfan adar. Yno cewch wylio adar y coed yn bwydo drwy gydol y flwyddyn. Yn ystod yr haf, cewch wylio’r ystlumod liw nos ar ein teithiau cerdded poblogaidd.

Yn rhan o broject Archwilio Natur yn Sain Ffagan, cafodd ffilmiau eu creu sy’n rhoi blas ar fywyd gwyllt yr Amgueddfa, gan gynnwys yr ystlum pedol lleiaf prin sy’n clwydo yn y Tanerdy.

Amgueddfa Wlân Cymru

Mae aelodau Clwb Garddio Dre-fach Felindre wedi tyfu gardd liwurau yn Amgueddfa Wlân Cymru. Cofrestrodd aelodau’r clwb fel gwirfoddolwyr yn 2015 ac ers hynny maent wedi bod yn gweithio gydag arbenigwr lliwurau naturiol i ymchwilio, cynllunio a gweddnewid pum gwely uchel yn ardd liwurau. Maent wedi llwyddo i gynaeafu planhigion lliwio dros y ddau haf ddiwethaf. I ddathlu eu llwyddiant, maent wedi cynnal gweithdai lliwurau gan liwio gwlân a gwlanen a gynhyrchwyd yn yr Amgueddfa.

Maent hefyd wedi annog aelodau Clwb Gwyrdd Ysgol Penboyr i dyfu a thendio eu gwely lliwurau eu hunain. Mae’r ardd liwurau’n ategu’r dehongli yn yr Amgueddfa ac, ochr yn ochr â’n dôl, yn atyniad deniadol o ymwelwyr.

Gosodwyd panel dehongli sy’n cynnwys gwybodaeth gyffredinol am liwurau naturiol yn 2016 a’r bwriad yw gosod panel ychwanegol yn 2017. Mae’r Clwb Garddio’n cynnal cyfarfodydd rheolaidd yn yr Amgueddfa ac maent yn y broses o gynhyrchu llyfr sy’n adrodd hanes yr ardd.

Dros y flwyddyn nesa, bwriedir gosod cronfa ddwr ar y Sied Weintio i gasglu dwr glaw a thrafod gosod gwely uchel arall i dyfu cribau’r pannwr, planhigyn hollbwysig yn hanes y diwydiant gwlân.

Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion

Ers mis Hydref 2005, mae gwyddonwyr gwych o Fôn i Fynwy wedi bod yn cadw cofnodion tywydd a dyddiadau blodeuo fel rhan o astudiaeth hirdymor i effeithiau tymheredd ar fylbiau’r gwanwyn. Mae miloedd o ddisgyblion ysgol yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad cyffrous hwn trwy fabwysiadu bylbiau’r gwanwyn a monitro effeithiau’r tymhorau arnynt. Ers 2011, trwy gydweithio ag Ymddiriedolaeth Edina, ymestynnwyd y project i ysgolion Lloegr a’r Alban hefyd.