Ynni a Dŵr
Mae Amgueddfa Cymru wedi gweithio’n agos â chyrff fel yr Ymddiriedolaeth Garbon a Llywodraeth Cymru i wella effeithlonrwydd ein hadnoddau yn sylweddol. Gallwch weld enghreifftiau o’n defnydd o ynni a dŵr
yma.
Technoleg gynaliadwy
Mae’r Amgueddfa eisoes yn defnyddio technoleg gynaliadwy mewn sawl maes. Yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru a’r Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol, mae cyfres o baneli solar yn darparu ynni adnewyddadwy. Mae paneli solar hefyd yn cael eu defnyddio yn y Tŷ Gwyrdd ynghyd â phwmp gwres daear i wresogi’r adeilad. Mae technoleg o’r fath hefyd yn cael ei defnyddio i ddiogelu rhai o’n hadeiladau hanesyddol. Wrth ailadeiladu Eglwys ganoloesol Sant Teilo, gosodwyd pwmp gwres daear yn fodd cynaliadwy a chudd o wresogi’r adeilad. Defnyddir pwmp gwres daear yn Llys Rhosyr hefyd, sef un o’r adeiladau newydd.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
5 ffaith werdd am yr adeilad:
- Gwresogi solar – mae 6 panel solar ar y to yn cynorthwyo i wresogi ein dŵr poeth.
- Wal lechi – mae’r wal anferth o lechi Cymreig yn gymorth i atal gormod o wres yr haul rhag cynhesu’r adeilad o’r de ac yn insiwleiddio’r oriel y tu mewn.
- Defnyddir dŵr y marina i oeri’r system aerdymheru. Yn y dyddiau cynnar, cafwyd rhai problemau gan fod corgimychiaid yn tagu’r system (wir i chi!) ond mae’r broblem wedi’i datrys bellach.
- Toiledau fflysio dŵr llwyd – wrth iddi lawio, mae tanciau ar y to’n llenwi. Defnyddir y dŵr glaw i fflysio toiledau’r Amgueddfa.
- Mae man gwefru cerbydau trydan ar gael i ymwelwyr am dâl bychan. Mae’n helpu i leihau allyriadau yng nghanol y ddinas.
Cafodd datblygiadau newydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru eu cynllunio a’u hadeiladu’n unol â Safon BREEAM, sy’n gwerthuso cynaliadwyedd prosesau caffael, dylunio, adeiladu a gweithredu adeiladau. Mae nodau BREAAM yn cynnwys:
- Lleihau’r defnydd o ynni trwy gynyddu effeithlonrwydd adeiladu a thrwy ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy.
- Sicrhau fod preswylwyr yn fwy cysurus trwy wella dulliau rheoli’r amgylchedd a sut y caiff gweithrediadau’r adeilad eu rheoli.
- Sicrhau defnydd cynaliadwy o dir ac y caiff cynefinoedd eu diogelu a’u creu.
- Sicrhau y daw deunyddiau adeiladu o ffynonellau cyfrifol ac y caiff yr effaith hirdymor ei leihau yn ystod oes y deunyddiau, o’r caffael i’r ailgylchu ar ddiwedd ei oes.
- Lleihau’r gwastraff yn ystod gwaith cynnal a chadw a thrwsio yn y dyfodol er mwyn annog gwaredu gwastraff trwy ddulliau eraill yn hytrach na thirlenwi.
- Pennu ffyrdd y gellid lleihau’r defnydd o ddŵr yfed.
O’r herwydd, mae adeiladau newydd Sain Ffagan yn cynnwys llawer o nodweddion ardystiad BREEAM, er enghraifft:
- Casglu, storio a defnyddio dŵr glaw i fflysio toiledau.
- Ffenestri sy’n agor yn ôl y tymheredd - lle mae system gyfrifiadurol yn rheoli agor y ffenestri er mwyn sicrhau amgylchedd cysurus a lleihau’r defnydd o systemau aerdymheru.
- Unedau cyfnewid gwres – lle mae hen aer sy’n gadael yr adeilad yn cael ei ddefnyddio i gynhesu’r aer sy’n dod i mewn i’r adeilad gan leihau’r defnydd o wresogyddion.
- Goleuadau sy’n ymateb i’r amgylchedd – lle mae lefel y goleuadau’n newid yn awtomatig gan ddibynnu ar y defnydd o’r ardal.
Dulliau rheoli adeiladau
Mae gosod peiriannau a systemau rheoli adeiladau gwell wedi gwella ein defnydd ynni yn sylweddol. Mae’r systemau rheoli cyfrifiadurol hyn yn rhedeg y bwyleri a’r systemau aerdymheru ac yn dechrau neu’n diffodd y peiriannau yn ôl y galw. Mae gyriannau gwrthdroadol yn rhan o’r systemau hyn. Nid yw gyriant gwrthdroadol yn hynod ddiddorol o edrych arno, ond mae’n galluogi i ni reoli cyflymder modur, a thrwy hynny ddefnyddio llai o ynni gan leihau defnydd trydan yn sylweddol.
Goleuadau sy’n arbed ynni
Rydym yn dal i wella ein goleuadau yn yr orielau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru trwy osod goleuadau LED clyfar. Er bod y goleuadau hyn yn ddrutach na’r hen fath, amcangyfrifir tua 50,000 o oriau o olau (tua 14 mlynedd o ddefnydd) sy’n arbed arian dros oes y lampau. Mae gosodiadau golau LED o’r radd flaenaf hefyd yn yr orielau a ailwampiwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, er mwyn defnyddio llai o ynni ac arbed arian ar gostau cynnal a chadw’r gofodau cyhoeddus poblogaidd hyn.
Gwres a Phŵer Cyfun
Gosodwyd bwyler gwresogi newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ddiweddar, ond nid bwyler cyffredin mohono – mae’n cynhyrchu trydan yn ogystal â dŵr poeth. Bwyler gwres a phŵer cyfunedig (CHP) yw’r enw arno.
Mae’r dechnoleg newydd hon, sydd wedi bod yn llwyddiannus mewn profion, yn llawer mwy effeithlon na bwyleri confensiynol. Mae manteision amgylcheddol hefyd, gan y bydd ein lefelau carbon deuocsid yn llawer is.
Nid yw’r bwyler CHP newydd yn darparu ein gwres a’n trydan i gyd, ond mae’n sicr yn gam i’r cyfeiriad cywir ac mae’n golygu bod yr Amgueddfa bellach ar flaen y gad yn amgylcheddol ac ym maes cynaliadwyedd ariannol.