Croeso i'r 5ed rhifyn o gylchgrawn digidol Cynfas, y tro yma ar y thema ‘Cynefin’, wedi ei olygu gan yr artist a'r bardd Manon Awst.
Heb fedru teithio a symud rhyw lawer dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r rhan fwyaf ohonom wedi treulio llawer o amser yn ein milltir sgwâr. Ond mae cynefin fel cysyniad yn orwel eang, ac yn unigryw i bob un ohonon ni. Mae’r neges uchod gan y golygydd yn ein tywys drwy res o gwestiynau, gan estyn gwahoddiad i ni ddod ar siwrne drwy safbwyntiau amrywiol cyfranwyr y rhifyn: artistiaid, haneswyr, archeolegwyr a chyfansoddwyr sydd wedi eu hysbrydoli gan wrthrychau yng nghasgliad yr Amgueddfa Genedlaethol.
Mae Manon Awst yn artist a bardd sy'n byw yng Nghaernarfon.