Artist yw Catrin Menai (1987– ) yn gweithio rhwng Cymru a Glasgow. Wrth ystyried defnydd sylw, mae’n defnyddio geiriau, ffilm a gwrthrychau canfod fel modd o drafod cadwyni cysylltiadau, dulliau cyfnewid, a gwahanol fathau o gwmni.
“Fe ddarllenais yn rhywle bod craidd o gelloedd nerfau siâp glöyn byw y tu fewn i linyn cefn ceffyl. Mae’n ddelwedd sy’n aros gyda fi, fel y bydd ‘adref’, a’r holl ddelweddau cysylltiedig sy’n pentyrru ac ymddangos, sy’n hedfan. Cefais fy nhynnu at y ffigwr bach o geffyl a ganfuwyd ‘ar ddamwain’ wrth gloddio mewn gardd ym Mhant-yr-Heol, Pentwyn Mawr (1949). Roeddwn i’n dychmygu person yn symud tua’r ceffyl a’r ceffyl yn symud tua’r person, a’r cyfathrebu sylfaenol yma; o gyfarfod ac ymglymu. Mae’n wir, rydyn ni ynghlwm yn ein cynefin. Mae’r ffrithiant yn wyddonol ond eto’n delynegol, wrth i’r tirlun symud ac ymledu.”
Cyfeiriadau: