Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru

Archwilio canfyddiad diweddar o’r Oes Efydd ym Mro Morgannwg gyda’r gŵr a’i darganfu, Mr Alan Jenkins.

Archwilio canfyddiad diweddar o’r Oes Efydd ym Mro Morgannwg gyda’r gŵr a’i darganfu, Mr Alan Jenkins.

Celc ceiniogau o’r canol oesoedd a ganfuwyd ger Llanandras yn Sir Drefaldwyn. Cyhoeddwyd yn ddiweddarach ei fod yn ‘drysor’.

Celc ceiniogau o’r canol oesoedd a ganfuwyd ger Llanandras yn Sir Drefaldwyn. Cyhoeddwyd yn ddiweddarach ei fod yn ‘drysor’.

Aelodau CHS Cymru, Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Archaeoleg Dyfed yn cloddio yn Llanismel yn Sir Gaerfyrddin yn y man y canfuwyd celc o’r Oes Efydd.

Aelodau CHS Cymru, Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Archaeoleg Dyfed yn cloddio yn Llanismel yn Sir Gaerfyrddin yn y man y canfuwyd celc o’r Oes Efydd.

Cydlynydd Canfyddiadau CHS Cymru yn cynnal diwrnod adnabod canfyddiadau ym Mhenmaenmawr, Conwy.

Cydlynydd Canfyddiadau CHS Cymru yn cynnal diwrnod adnabod canfyddiadau ym Mhenmaenmawr, Conwy.

Cydlynydd Canfyddiadau CHS Cymru yn cynnal diwrnod adnabod canfyddiadau ym Mhenmaenmawr, Conwy.

Cydlynydd Canfyddiadau CHS Cymru yn cynnal diwrnod adnabod canfyddiadau ym Mhenmaenmawr, Conwy.

Cydlynydd Canfyddiadau CHS Cymru yn esbonio pwysigrwydd arteffactau archaeolegol i ddisgyblion o Aberdâr,  Rhondda Cynon Taf.

Cydlynydd Canfyddiadau CHS Cymru yn esbonio pwysigrwydd arteffactau archaeolegol i ddisgyblion o Aberdâr, Rhondda Cynon Taf.

Cydlynydd Canfyddiadau CHS Cymru yn esbonio pwysigrwydd arteffactau archaeolegol i ddisgyblion o Aberdâr,  Rhondda Cynon Taf.

Cydlynydd Canfyddiadau CHS Cymru yn esbonio pwysigrwydd arteffactau archaeolegol i ddisgyblion o Aberdâr, Rhondda Cynon Taf.

Cydlynydd Canfyddiadau CHS Cymru yn esbonio pwysigrwydd arteffactau archaeolegol i ddisgyblion o Aberdâr,  Rhondda Cynon Taf.

Cydlynydd Canfyddiadau CHS Cymru yn esbonio pwysigrwydd arteffactau archaeolegol i ddisgyblion o Aberdâr, Rhondda Cynon Taf.

PAS Cymru – Arweiniad i’r Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru

Cynnwys

  1. Cyflwyniad
  2. Y Cynllun Henebion Cludadwy
  3. Cynllun Henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru)
  4. Archaeoleg yng Nghymru
  5. Cyngor pellach
  6. Atodiad 1 – Deddf Trysorau yng Nghymru

Cyflwyniad

Nod y ddogfen hon yw rhoi trosolwg cyffredinol o waith y Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru. Mae’n crynhoi cyd-destun a hanes y cynllun, sut mae’n cael ei ariannu a’i reoli, a beth yw rôl a chyfrifoldebau’r sefydliadau allweddol sy’n gysylltiedig ag ef. Mae hefyd yn trafod sut fydd y cynllun, trwy drefniadau rheoli newydd dan frand PAS Cymru, yn parhau i ddarparu’n effeithiol ar gyfer pobl Cymru ac yn mynd i’r afael ag anghenion penodol Cymru.

Grŵp llywio PAS Cymru sydd wedi paratoi’r trosolwg hwn, sef CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru, Cadw ac Amgueddfa Cymru. Cafodd y grŵp llywio ei sefydlu yn 2011-12 er mwyn rheoli a hyrwyddo’r cynllun yng Nghymru.

Y bwriad yw rhoi arweiniad i rai sy’n pennu polisïau, cyllidwyr ac unrhyw rai eraill sydd â diddordeb yn y modd y mae’r maes archaeoleg gyhoeddus yn cael ei reoli yng Nghymru. Er ei fod yn hynod berthnasol i rai sy’n rhan uniongyrchol o’r cynllun, fel archaeolegwyr a chlybiau datgelyddion metel, nid creu canllawiau manwl ‘sut i gofnodi darganfyddiadau’ yw’r nod. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael trwy gysylltu â Chydlynydd Darganfyddiadau Cymru – mae’r manylion cyswllt yn Adran 5 isod.

Y Cynllun Henebion Cludadwy

Dull o gofnodi a chyhoeddi darganfyddiadau archaeolegol gan aelodau’r cyhoedd yw’r Cynllun Henebion Cludadwy. Mae wedi profi’n ffordd hynod effeithiol o gael gwybodaeth archaeolegol hanfodol yn ogystal â denu cynulleidfaoedd a chymunedau nad ydynt yn ymweld ag amgueddfeydd fel arfer.

Datblygodd y Cynllun Henebion Cludadwy yn gynllun gwirfoddol ar gyfer cofnodi darganfyddiadau nad ydynt yn rhan o ddarpariaeth Deddf Trysorau 1996. Yn dilyn ymgynghoriad gan y llywodraeth, dechreuodd cynllun peilot mewn rhannau o Loegr ym 1997; ddwy flynedd yn ddiweddarach, roedd Cymru’n rhan o ail gam y cynllun peilot a chafodd y cynllun ei ymestyn i weddill Cymru a Lloegr wedyn.

Hyd yma, mae’r gronfa ddata chwilio ar-lein (https://finds.org.uk/) yn cynnwys dros hanner miliwn o gofnodion sy’n ymwneud â 850,000 a mwy o wrthrychau unigol. Trefnir digwyddiadau a gweithgareddau ar hyd a lled Cymru a Lloegr. Ar hyn o bryd, mae dros 300 o brojectau ymchwil gweithredol wedi’u seilio ar yr wybodaeth sydd wedi’i chasglu gan y Cynllun.

Adran Henebion Cludadwy a Thrysorau yr Amgueddfa Brydeinig sy’n gweinyddu Cynllun Henebion Cludadwy Lloegr, ac mae ei gyllideb yn rhan o gyllid craidd yr Amgueddfa Brydeinig.

Cynllun Henebion Cludadwy Cymru (PAS Cymru)

3.1      Hanes y Cynllun yng Nghymru
Dechreuodd y Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru ym mis Mawrth 1999, fel rhan o ail gam y cynllun peilot yng Nghymru a Lloegr. Gan fod y Cynllun yng Nghymru yn cwmpasu ardal ddaearyddol sylweddol iawn, cafodd ei strwythuro yn wahanol i gynlluniau cyfatebol yn Lloegr.

Cafodd cynllun peilot ei sefydlu a’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (dan gais PAS canolog) a’i weinyddu drwy Museums, Libraries and Archives (MLA); a chafodd yr ochr Gymreig ei gweinyddu gan Gyngor Amgueddfeydd Cymru. Pan ddaeth y Cyngor hwnnw i ben yn 2004, daeth Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am weinyddu’r Cynllun yng Nghymru. Yn yr un modd, pan gafodd yr MLA ei ddiddymu yn 2010, daeth yr Amgueddfa Brydeinig yn gyfrifol am reoli’r Cynllun yn ganolog gydag arian wedi’i glustnodi fel rhan o raglen ‘Renaissance in the Regions’ sy’n berthnasol i Loegr yn unig.

Sefydlwyd  y Cynllun yng Nghymru gyda’r bwriad o gynnwys llawer o gyrff a sefydliadau archaeolegol sydd eisoes ar waith yn y wlad hon. Penderfynwyd y dylai’r swydd Cynllun Henebion Cludadwy fod yn rhan o’r Adran Archaeoleg a Niwmismateg, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lle byddai deiliad y swydd yn cydlynu’r cynllun ledled Cymru gan elwa ar arbenigedd curadurol ac archaeolegol yr un pryd. Ar ôl trafod gyda’r pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru, sydd â chyfrifoldeb statudol i gynnal y Cofnodion Amgylchedd Treftadaeth ar gyfer eu rhanbarthau unigol,1 penderfynwyd cynnig cytundeb gwasanaeth iddynt er mwyn cynnal a hyrwyddo’r cynllun yn eu rhannau hwy o’r wlad.

3.2      Sut mae’r Cynllun Henebion Cludadwy yn gweithio yng Nghymru
Mae’r Cynllun yn yr Amgueddfa Brydeinig yn darparu gwasanaethau canolog sy’n cynnal cronfa ddata o ddarganfyddiadau wedi’u cofnodi a gwefan sy’n rhoi cyfle i’r cyhoedd gyrchu’r gronfa ddata a gwybodaeth gysylltiedig. Yr unig opsiwn realistig i’r Cynllun yng Nghymru yw parhau i ddefnyddio’r cyfleuster hwn, gan gymryd y bydd llawer o’r darganfyddiadau a gofnodir yng Nghymru yn cael eu gwneud yn Lloegr (ac fel arall weithiau) oherwydd manteision ymchwil cael un chwiliadur a chronfa ddata ar gyfer Cymru a Lloegr, a’r ystyriaethau ymarferol ac ariannol sy’n gysylltiedig â sefydlu cronfa ddata annibynnol.

Mae’r Cyngor yn ganolog yn cyflogi sawl arbenigwr sy’n darparu cymorth i swyddogion cyswllt darganfyddiadau yn Lloegr. Yng Nghymru, mae staff Amgueddfa Cymru yn darparu cymorth arbenigol (yn enwedig arbenigwyr lithig, gwaith metel yr Oes Efydd hyd y Canol Oesoedd, a niwmismateg).
Mae Cydlynydd Darganfyddiadau Cymru yn gweithio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a’i brif gyfrifoldebau yw:

  • Sicrhau bod gwybodaeth am ddarganfyddiadau archaeolegol yn cael ei chofnodi, ei hymchwilio ac ar gael i’r cyhoedd, archaeolegwyr ac ymchwilwyr eraill ei defnyddio.
  • Cynnig cyfleoedd dysgu er mwyn dangos pa mor bwysig yw diwylliant archaeolegol materol trwy gynnig allgymorth effeithiol i rai sy’n darganfod.
  • Sicrhau bod canlyniadau gwaith ymchwil yn cael eu rhannu trwy gyhoeddi, arddangos a darlithio.
  • Cynnig cymorth i’r rhwydwaith o ganolfannau cofnodi ar hyd a lled Cymru.
  • Hyrwyddo’r Cynllun trwy baratoi adroddiadau a mynychu digwyddiadau amrywiol. Paratoi adroddiadau ariannol a gweithgarwch chwarterol.
  • Helpu Amgueddfa Cymru i weinyddu’r Ddeddf Trysorau yn ddidrafferth, trwy gysylltu â darganfyddwyr, curaduron a chrwneriaid.
  • Gwneud gwaith ymchwil ar ddarganfyddiadau o bwys, er mwyn cael gwybodaeth gyd-destunol hanfodol a lle bo’n briodol, cynnwys cymunedau â diddordeb.
  • Rhoi cymorth i wirfoddolwyr gyda ffotograffiaeth, prosesu delweddau a chofnodi ar y gronfa ddata, a sicrhau ei fod yn brofiad gwerth chweil i wirfoddolwyr.

Fel rhan o’r cylch gwaith hwn, mae’r Cydlynydd Darganfyddiadau yn darparu cyfleoedd dysgu er mwyn dangos pa mor bwysig yw’r diwylliant archaeolegol a hyrwyddo’r Cynllun yng Nghymru. Gwneir hyn trwy waith allgymorth effeithiol i’r gymuned canfod metelau a helpu sefydliadau partner i ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd, plant ysgol, myfyrwyr prifysgol a gweithwyr proffesiynol mewn amgueddfeydd. Mae hyn yn cynnwys rhaglen barhaus o ddigwyddiadau ledled Cymru sydd â’r nod o sicrhau bod pawb yn cyfrannu at y Cynllun Henebion Cludadwy. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • digwyddiadau gyda chlybiau datgelyddion metel
  • digwyddiadau codi ymwybyddiaeth a darganfyddiadau
  • sgyrsiau, darlithoedd a chyhoeddiadau sy’n pwysleisio effeithiolrwydd a moeseg y cynllun a rhoi sylw i unrhyw ddarganfyddiadau allweddol
  • seminarau/gweithdai ar gyfer gweithwyr proffesiynol amgueddfeydd (nid archaeolegwyr) er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r Cynllun a gwaith cofnodi priodol.

3.3      Trefniadau cyllido a monitro yng Nghymru
Hyd yn hyn, mae’r Cynllun yng Nghymru wedi’i ariannu trwy grant gan yr Amgueddfa Brydeinig yn ogystal â chyfraniadau gan Lywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru. Gan fod arian yr Amgueddfa Brydeinig yn dod i ben fesul tipyn, ar ôl diddymu’r MLA (Museums Archives and Libraries Council) yn Lloegr, cytunwyd y byddai Amgueddfa Cymru, Cadw a CyMAL yn ariannu’r cyfraniad Cymreig i’r cynllun yn gyfartal, gan ysgwyddo’r cyfrifoldeb yn llawn o 2015-16 ymlaen pan ddaw cyllid yr Amgueddfa Brydeinig i ben.

Grŵp llywio PAS Cymru sy’n goruchwylio trefniadau cyllido a monitro’r cynllun, ac mae’r grŵp yn cynnwys tri phrif sefydliad cyllido. Mae’r grŵp yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, unwaith yn y gwanwyn ac unwaith yn yr hydref. Mae Amgueddfa Cymru yn paratoi rhaglen weithgareddau ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol yng nghyfarfod y gwanwyn, yn ogystal ag adolygiad blynyddol ar ddiwedd y flwyddyn. Mae Amgueddfa Cymru hefyd yn darparu adroddiad byr am y cynnydd yn ystod y flwyddyn, yng nghyfarfod yr hydref. Mae Pennaeth Archaeoleg Amgueddfa Cymru hefyd yn aelod o Fwrdd Cynghori PAS yn yr Amgueddfa Brydeinig.

Mae taliadau gan Cadw a CyMAL, sef eu cyfraniad tuag at weithredu’r cynllun, yn cael eu gwneud ym mis Ebrill y flwyddyn ariannol berthnasol. Fe’u telir yn uniongyrchol i Amgueddfa Cymru.

 

3.4     Datblygiadau o 2012 ymlaen – tuag at PAS Cymru
O safbwynt y Cynllun Henebion Cludadwy, mae Cymru yn cwmpasu ardal eang iawn, llawer ohoni’n brin ei phoblogaeth a chyda phroblemau cyfathrebu a thrafnidiaeth. Mae llawer o’r swyddogaethau gwasanaeth cyhoeddus bellach yn wahanol i’r gwasanaethau cyfatebol yn Lloegr, yn sgil datganoli mwy a mwy o gyllid a phwerau'r llywodraeth.

Wrth ddatganoli pwerau a chyllid i Lywodraeth Cymru, mae cyfle i greu Cynllun Henebion Cludadwy unigryw i Gymru, sy’n diwallu anghenion pawb â buddiant yn well: darganfyddwyr, y cyhoedd a’r sector treftadaeth.

Bydd PAS Cymru yn parhau i gyflawni swyddogaethau craidd cofnodi darganfyddiadau gan aelodau’r cyhoedd a sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd. Rydym yn arbennig o awyddus yng Nghymru i ychwanegu gwerth at y gwaith rhagorol sydd eisoes yn cael ei wneud, a byddwn yn ymchwilio i ffyrdd o ddatblygu’r dyheadau hyn ymhellach:

  • datblygu cyfleoedd i’r cyhoedd gymryd rhan mewn gwaith cofnodi darganfyddiadau, digwyddiadau arbennig a phrojectau penodol dan law sefydliadau partner
  • cynyddu’r cyfleoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddiwylliant materol a’i arwyddocâd
  • codi ymwybyddiaeth o’r cynllun ymysg cynulleidfa ehangach trwy gyfrwng y gweithgareddau uchod a dulliau eraill fel sy’n briodol
  • datblygu potensial ymchwil data PAS yng Nghymru
  • cefnogi rhwydwaith cynaliadwy o ganolfannau cofnodi lleol.

Archaeoleg yng Nghymru

Amgueddfa Cymru
Sefydlwyd Amgueddfa Cymru drwy Siarter Frenhinol ym 1907 ac mae’n elusen annibynnol ac yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (CNLC). Nod craidd yr Amgueddfa yw ‘hyrwyddo addysg y cyhoedd’, gan gynnwys Archaeoleg a Hanes. Mae dysgu wrth wraidd popeth yn Amgueddfa Cymru, ac wrth weithio i wireddu ei gweledigaeth o fod yn "amgueddfa ddysg o safon ryngwladol", mae’n meddwl yn gyson am ffyrdd newydd o ddod â’i chasgliadau yn fyw fel bod mwy a mwy o bobl yn gallu eu mwynhau a rhyngweithio â nhw. Dyma’r prif gorff cenedlaethol ar gyfer ymchwilio i arteffactau archaeolegol a diwylliant materol, a’u dehongli.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru yn ogystal â chanolfan gasgliadau genedlaethol. Mae ei safleoedd yn ganolfannau cyffrous ar gyfer dysgu gydol oes, ac o gymorth i wella safonau cyrhaeddiad plant.

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, ac mae’n rhan o bortffolio’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon. Mae Cadw yn arwain ac yn hwyluso’r sector amgylchedd hanesyddol. Mae’n cyflawni cyfrifoldebau statudol Gweinidogion Cymru, gan gynnwys dynodi asedau hanesyddol a rheoli’r 129 o henebion hanesyddol sydd dan ofal y wladwriaeth, ac yn cefnogi’r sector trwy ganllawiau a chymorth grant.

Mae Cadw yn noddi Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ac yn cyfrannu arian sylweddol i Ymddiriedolaethau Archaeoleg Cymru am wasanaethau cynghori a phrojectau sy’n hybu dealltwriaeth o’r amgylchedd hanesyddol a’u diogelu. Mae Cadw yn ariannu sefydliadau allweddol y trydydd sector hefyd fel Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru a chymdeithasau amwynderau.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Fe’i sefydlwyd drwy Warant Frenhinol ym 1908. Ei swyddogaethau craidd yw ymchwilio, deall, dehongli a lledaenu gwybodaeth awdurdodol am yr amgylchedd hanesyddol, a gofalu am ei gofnodion ei hun ac eraill, a’u cynnal. Mae hefyd yn rhoi cyngor ac arbenigedd annibynnol. Mae’r archif barhaol, Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, yn ‘fan cadw’ dan Ddeddf Cofnodion Cyhoeddus 1958 ac ar agor i’r cyhoedd. Mae Coflein, ei wasanaeth gwybodaeth ar-lein, yn darparu mynediad i gasgliadau, catalogau a mynegai cenedlaethol o safleoedd www.coflein.gov.uk.

Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru
Cafodd pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru, sy’n elusennau addysgol a chwmnïau cyfyngedig, eu sefydlu ganol y 1970au gyda’r prif nod o hybu addysg ym maes archaeoleg. Mae’r Ymddiriedolaethau yn cyflogi staff archaeolegol proffesiynol sydd ag amrywiaeth eang o arbenigeddau ac sy’n cydweithio’n agos â chyrff cenedlaethol, rhanbarthol a lleol eraill, i helpu i warchod, cofnodi a dehongli pob agwedd ar yr amgylchedd hanesyddol, a sicrhau bod y canlyniadau ar gael i’r cyhoedd.

Mae’r Ymddiriedolaethau yn cadw’r Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol rhanbarthol, ac yn derbyn tâl gan Awdurdodau Unedol a sefydliadau eraill er mwyn darparu cyngor strategol yn ogystal â chymorth rheoli achosion pan fo cynigion datblygu a chynlluniau amaeth-amgylcheddol, coedwigaeth a choetir yn effeithio ar yr amgylchedd hanesyddol.

Amgueddfeydd lleol
Mae amgueddfeydd lleol yn gwneud cyfraniad allweddol o ran dehongli a chasglu deunyddiau archaeolegol o bwysigrwydd lleol a rhanbarthol ac, yn gynyddol, maent yn gallu benthyca eitemau o bwys cenedlaethol hefyd. Mae nifer o amgueddfeydd lleol Cymru yn cymryd rhan yn y Cynllun Henebion Cludadwy i wahanol raddau. Mae’r cyfraniad hwn yn amrywio o geisio adnabod darganfyddiadau ar gyfer aelodau’r cyhoedd i gysylltiadau uniongyrchol â’r Ymddiriedolaethau Archaeolegol a Chydlynydd Darganfyddiadau Cymru. Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod lle i rai amgueddfeydd lleol wneud mwy o gyfraniad trwy weithio’n agosach gyda’r Ymddiriedolaethau trwy gyfrwng rhwydweithiau mwy ffurfiol. Mae angen ategu hyn gyda sesiynau hyfforddiant ac ymwybyddiaeth wedi’u rheoli’n ganolog, a mwy o gyfleoedd i hyrwyddo’r cynllun.

Cyngor pellach

Mae gwybodaeth gyffredinol am y Cynllun yng Nghymru a Lloegr ar gael ar y wefan http://finds.org.uk/. Gall canolfannau cofnodi lleol gysylltu â Chydlynydd Darganfyddiadau Cymru am gyngor ac am faterion cofnodi. Os yw’r darganfyddiad o bwys archaeolegol, efallai y bydd y Cydlynydd am fenthyg yr arteffact er mwyn paratoi adroddiad llawn arno. Fel arfer, bydd yn benthyca’r arteffact am ychydig wythnosau neu gyfnod hwy os oes angen cynnal astudiaeth neu waith darlunio neu ddadansoddi pellach. Dyma fanylion cyswllt y Cydlynydd Darganfyddiadau:

Mark Lodwick
Adran Hanes ac Archaeoleg,
Amgueddfa Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NP

E-bost: mark.lodwick@amgueddfacymru.ac.uk
Ffôn: (029) 2057 3226
Ffacs: (029) 2066 7320

 

Mae manylion cyswllt defnyddiol eraill yn cynnwys yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol perthnasol a’ch amgueddfa leol. Dyma’r Ymddiriedolaethau lleol:

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys,
41 Broad Street,
Y Trallwng,
Powys SY21 7RR,

Ffôn: 01938 553670
Ffacs: 01938 552179
E-bost: her@cpat.org.uk

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed,
Neuadd y Sir,
8 Stryd Caerfyrddin,
Llandeilo,
Sir Gaerfyrddin SA19 6AF

Ffôn: 01558 823121 / 823131
Ffacs: 01558 823133
E-bost: info@dyfedarchaeology.org.uk

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent Cyf.
Heathfield House,
Heathfield,
Abertawe SA1 6EL

Ffôn: 01792 655208
Ffacs: 01792 474469
E-bost: enquiries@ggat.org.uk
neu her@ggat.org.uk

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd,
Craig Beuno,
Ffordd y Garth,
Bangor LL57 2RT

Ffôn: 01248 352535
Ffacs: 01248 370925
E-bost: her@heneb.co.uk neu gat@heneb.co.uk

Atodiad 1 – Deddf Trysorau yng Nghymru

Roedd Deddf Trysor 1996, a ddaeth i rym ar 24 Medi 1997, yn disodli’r gyfraith gyffredin yn ymwneud â hapdrysor a oedd yn rhoi sicrwydd cyfreithiol i ddosbarthiadau penodol o hen bethau a ganfuwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.2 Fe’i rheolir gan God Ymarfer, sy’n cael ei adolygu o dro i dro.

Amgueddfa Cymru sy’n darparu cyngor i grwneriaid mewn unrhyw achos sy’n ymwneud â thrysorau, fel yr unig gorff yng Nghymru sydd â’r arbenigedd sy’n cwmpasu’r holl ddarganfyddiadau amrywiol o geiniogau a gwrthrychau archaeolegol. Uned Archaeoleg a Niwmismateg yr Adran Hanes ac Archaeoleg yw’r prif gorff yng Nghymru ar gyfer astudiaethau arteffactau a niwmismateg (gan gynnwys metelau gwerthfawr). Gall darganfyddwyr sy’n cysylltu’n uniongyrchol â’u crwneriaid lleol neu Amgueddfa Cymru ddod ag achosion i sylw swyddogol, ond mae gan PAS Cymru, trwy gysylltiad rheolaidd â chlybiau datgelyddion metel, rôl hollbwysig o ran adnabod a chofnodi trysorau posibl.

Mae staff Archaeoleg a Niwmismateg Amgueddfa Cymru yn defnyddio offer dadansoddi, yn fewnol ac ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n amhrisiadwy er mwyn adnabod nodweddion aloiau ansicr.

Ym mhob achos, bydd yr arbenigwr perthnasol yn Amgueddfa Cymru yn paratoi adroddiad ar gyfer y crwner, sy’n gorfod cynnal cwest yn yr achosion hynny lle bo amgueddfa yn dymuno caffael y darganfyddiad. Ers 1943, y gwir yw bod hapdrysor – neu drysor yn ddiweddarach – sy’n cael ei ddarganfod yng Nghymru, yn cael ei gynnig i’w gaffael gan amgueddfeydd yng Nghymru. Yr egwyddor gyffredinol yw mai’r amgueddfa genedlaethol sy’n caffael darganfyddiadau a ystyrir yn rhai o bwys cenedlaethol, ond bydd pob achos yn cael ei drafod cyn y cwest, gyda’r amgueddfeydd cofrestredig sy’n debygol o fod â diddordeb yn y darganfyddiadau. Egwyddor bwysig sylfaenol arall yw’r rhagdybiaeth y bydd darganfyddiadau’n cael eu cadw’n gyflawn lle bo’n bosibl.

Ar ôl y cwest, mae Amgueddfa Cymru yn trefnu i gludo darganfyddiadau i Lundain er mwyn i’r Pwyllgor Prisio Trysor annibynnol eu hystyried. Byddant yn cael eu cadw’n ddiogel yn yr Amgueddfa Brydeinig gydol y broses hon. Unwaith y bydd pawb wedi cytuno ar bris, a’r taliad wedi’i wneud3 , mae croeso i’r amgueddfa sy’n caffael drefnu i gasglu’r darganfyddiad o’r Amgueddfa Brydeinig. Bydd darganfyddwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am eu hachosion, bob cam o’r daith.

Cyllid ac adnoddau eraill
Mae’r gwaith o weinyddu trysorau yn dod o dan drefniant cyllid arferol Amgueddfa Cymru, heb unrhyw ddyraniad arbennig. Defnyddir y Grant Caffael Sbesimenau i gaffael trysor, yn ogystal ag arian ategol lle bo’r angen gan gyrff allanol fel Cronfa Dreftadaeth y Loteri a’r Gronfa Gelf a chyrff grantiau eraill. Mae amgueddfeydd rhanbarthol yn gallu manteisio ar gronfeydd fel grant V&A, y Gronfa Gelf ac ati.

Yr Amgueddfa Brydeinig sy’n gweinyddu ac yn ariannu’r gwaith o brisio trysorau. Mae Cymru a Lloegr yn perthyn i’r un awdurdodaeth gyfreithiol, a defnyddir yr un drefn â Lloegr i weinyddu trysorau yng Nghymru. Mae nifer y trysorau sy’n cael eu darganfod yng Nghymru bob blwyddyn yn gyfran fach iawn (20-25 y flwyddyn - tua thri y cant) yng nghyd-destun Cymru a Lloegr (tua 800 y flwyddyn). Gall ystyriaethau fel maint ac effeithlonrwydd felly olygu nad yw’r syniad o greu trefn weinyddu annibynnol ar gyfer achosion o drysorau yng Nghymru yn ymarferol, yn enwedig oherwydd y byddai angen defnyddio priswyr annibynnol profiadol a’r Pwyllgor Prisio Trysorau o hyd (y telir eu costau’n ganolog ar hyn o bryd); yr angen ffurfiol i’r Ysgrifennydd Gwladol ymwrthod ag achosion; a chyfle i ddefnyddio arbenigedd cyfreithiol (Cyfreithiwr y Trysorlys), i enwi dim ond tair agwedd. Byddai angen diwygio’r Ddeddf Trysorau ei hun er mwyn creu gweinyddiaeth annibynnol i Gymru.

Mae Deddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 yn cynnwys darpariaethau ar gyfer sefydlu swydd crwner unigol ar gyfer Trysorau, ond nid yw wedi’i weithredu hyd yma. Byddai swydd o’r fath, os caiff ei gweithredu, yn cyflymu achosion ac yn sicrhau cysondeb wrth drin a thrafod trysorau. Efallai bod y nifer cymharol fach o achosion yng Nghymru yn golygu nad yw creu swydd benodol yng Nghymru yn ymarferol, er ei bod hi’n werth ymchwilio i’r posibilrwydd o ymdrin â phob achos Cymreig gan y swyddfa crwner, trwy gytundeb.

Mae’r broses o weinyddu Deddf Trysorau 1996 yn cael ei rheoli gan God Ymarfer, ac yn ôl y Ddeddf, mae’n ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol (dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon) adolygu’r Cod a’i ddiwygio fel bo’r angen (para 11(1) (b)). Mae’r Cod (diwygiedig) presennol yn dyddio’n ôl i 2002, yn dilyn adolygiad o dair blynedd gyntaf gweithredu’r Ddeddf.

 

1Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd

2Mae’r sefyllfa yn wahanol yn yr Alban, lle mae pob darganfyddiad yn destun cyfraith bona vacantia

3O fewn tri mis i’r anfoneb fel arfer, heblaw am achosion sy’n destun cymorth grant (pedwar mis).