Hel Trysor; Hel Straeon

Project sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yw Hel Trysor; Hel Straeon ac mae’n caffael eitemau archaeolegol ar gyfer casgliadau lleol a chenedlaethol, yn darparu hyfforddiant i weithwyr treftadaeth proffesiynol a gwirfoddolwyr ac yn ennyn diddordeb cymunedau lleol yn eu gorffennol drwy ariannu projectau archaeolegol cymunedol sy’n cael eu harwain gan amgueddfeydd lleol ledled Cymru.

Mae Hel Trysor; Hel Straeon yn broject partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru a’r Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru) sy’n hyrwyddo treftadaeth archaeolegol gludadwy Cymru drwy gaffael darganfyddiadau a wneir gan y cyhoedd. Cafodd y project gyllid grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ym mis Hydref 2014 drwy’r rhaglen Casglu Diwylliannau ac mae’n para am bum mlynedd (2015-2019).

Bydd y Project yn cyfrannu at waith amgueddfeydd a’u casgliadau drwy:

  1. Gryfhau hunaniaeth gymunedol a diwylliannol.
  2. Grymuso pobl drwy ddysgu, cymryd rhan ac ysbrydoli.

Bydd hefyd yn:

  • Caffael arteffactau archaeolegol ar gyfer casgliadau cenedlaethol a lleol.
  • Dod â chlybiau datgelyddion metel, amgueddfeydd lleol a chymunedau lleol at ei gilydd.
  • Galluogi cymunedau o bob math i ymddiddori mewn tystiolaeth o’u gorffennol.

Canlyniadau a ariennir

  • Bydd yna gronfa i dalu holl gostau caffael trysor a darganfyddiadau sydd wedi’u cofnodi ond nad ydynt yn drysor (mwy na 300 mlwydd oed) o bob cwr o Gymru.
  • Bydd y project yn galluogi chwe Phroject Archaeoleg Cymunedol (rhwng 2016 a 2018), gan weithio gydag amgueddfeydd lleol, clybiau datgelyddion metel a chymunedau lleol.
  • Bydd rhwydweithiau casglu strategol, hyfforddiant, rhannu sgiliau, bwrsarïau a chyfleoedd gwirfoddoli yn cael eu creu.

Bydd gwefan PAS Cymru yn cael ei datblygu fel canolbwynt yng Nghymru ar gyfer dathlu darganfyddiadau sy’n drysor a heb fod yn drysor.

I wybod mwy am Hel Trysor; Hel Straeon cysylltwch â:

Dr Rhianydd Biebrach,
Swyddog Project,
Yr Adran Hanes ac Archaeoleg,
Amgueddfa Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd
CF10 3NP.
Ffôn: (029) 2057 3137

e-bost Dr Rhianydd Biebrach