Rôl ac Amcanion y Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru)

Cyflwynwyd y Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru) ym mis Mawrth 1999. Swyddogaeth graidd PAS Cymru yw creu cofnodion ansawdd uchel o ddarganfyddiadau archaeolegol aelodau’r cyhoedd a sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd. Mae prif amcanion PAS Cymru yn cynnwys:

  • datblygu cyfleoedd i’r cyhoedd gymryd rhan mewn archaeoleg drwy gofnodi eitemau sy’n cael eu canfod;
  • cynyddu cyfleoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddiwylliant materol a’i arwyddocâd wrth ddeall ein gorffennol;
  • hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cynllun i gynulleidfa mor eang â phosibl;
  • datblygu potensial ymchwil data PAS; a
  • chefnogi rhwydwaith gynaliadwy o ganolfannau adrodd lleol.

Mae gwybodaeth gyffredinol am y Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru a Lloegr ar gael yn http://finds.org.uk/.

Rôl y Cydlynydd Darganfyddiadau

Mae’r Cydlynydd Darganfyddiadau ar gyfer Cymru yn gweithio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (sy’n rhan o Amgueddfa Cymru) ac mae’n gweithio’n agos gyda’r pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru (Gwynedd, Clwyd-Powys, Dyfed a Morgannwg-Gwent), sy’n cynnal y Cofnodion Amgylchedd Treftadaeth ac yn hyrwyddo’r cynllun yn eu rhanbarthau.

Prif gyfrifoldebau’r Cydlynydd Darganfyddiadau yw:

  • Sicrhau bod gwybodaeth o ddarganfyddiadau archaeolegol yn cael ei chofnodi a’i hymchwilio a’i bod ar gael at ddefnydd y cyhoedd, archaeolegwyr ac ymchwilwyr eraill.
  • Rhoi cyfleoedd i ymgysylltu a dysgu er mwyn dangos pwysigrwydd diwylliant materol archaeolegol drwy sicrhau cysylltiad effeithiol â phobl sy’n canfod eitemau.
  • Sicrhau bod canlyniadau ymchwil yn cael eu dosbarthu’n eang drwy gyhoeddiadau, arddangosfeydd a darlithoedd.
  • Cynnig cefnogaeth a chymorth i’r rhwydwaith o ganolfannau adrodd ledled Cymru.
  • Hyrwyddo PAS Cymru drwy baratoi adroddiadau a mynychu digwyddiadau perthnasol.
  • Cynorthwyo Amgueddfa Cymru i sicrhau bod y gwaith o weinyddu’r Ddeddf Trysor (1996) yn mynd rhagddo’n hwylus drwy gysylltu â darganfyddwyr, curaduron a chrwneriaid.
  • Gwneud ymchwil gychwynnol i ddarganfyddiadau arwyddocaol er mwyn cael gwybodaeth gyd-destunol hanfodol a, lle bo’n briodol, cynnwys cymunedau â diddordeb.
  • Cefnogi cynorthwywyr gwirfoddol gyda ffotograffiaeth, prosesu delweddau a chofnodi ar y gronfa ddata a sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael budd o’r profiad.

Fel rhan o’r cylch gwaith hwn mae’r Cydlynydd Darganfyddiadau yn rhoi cyfleoedd i ddysgu ac ymgysylltu er mwyn dangos pwysigrwydd diwylliant materol archaeolegol, a hyrwyddo PAS Cymru drwy waith allgymorth effeithiol gyda’r gymuned o ddefnyddwyr datgelyddion metel a chynorthwyo sefydliadau partner i ymgysylltu ag aelodau’r cyhoedd, plant ysgol, myfyrwyr prifysgol a gweithwyr amgueddfa proffesiynol. Mae hyn yn golygu cynnal rhaglen barhaus o ddigwyddiadau ledled Cymru gyda’r nod o sicrhau bod pobl yn cymryd rhan yn y Cynllun Henebion Cludadwy. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • digwyddiadau gyda chlybiau datgelyddion metel
  • digwyddiadau darganfyddiadau ac ymwybyddiaeth
  • sgyrsiau, darlithoedd a chyhoeddiadau i ddangos effeithiolrwydd a moeseg y cynllun ac i dynnu sylw at ddarganfyddiadau allweddol; a
  • seminarau / gweithdai ar gyfer gweithwyr amgueddfa proffesiynol (nad ydynt yn archaeolegwyr) i godi ymwybyddiaeth o PAS Cymru a chadw cofnodion priodol.

Cyllido a Monitro

Ers 2015, mae PAS Cymru wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy gyfraniadau cyfartal gan Amgueddfa Cymru, Cadw ac Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru. Mae’r gwaith o gyllido a monitro’r cynllun yn cael ei oruchwylio gan Grŵp Llywio PAS Cymru sy’n cynnwys y tri phrif sefydliad sy’n ariannu’r cynllun. Mae Pennaeth Archaeoleg Amgueddfa Cymru hefyd yn aelod o Banel Cynghori PAS sy’n cael ei arwain gan y British Museum.