Beth yw Trysor?

Mae tua 30–40 o eitemau sy’n cael eu diffinio fel trysor yn cael eu canfod yng Nghymru bob blwyddyn, y rhan fwyaf gan bobl â’u datgelyddion metel.

O dan delerau’r Ddeddf Trysor (1996), a gafodd ei chyflwyno yn lle cyfraith gyffredin Trysor Darganfyddedig, mae gofyniad ar aelodau’r cyhoedd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i roi gwybod am drysor posibl i’r crwner lleol, neu i’r Swyddog Cydgysylltu Canfyddiadau, a fydd yn eu hadrodd ar ran y sawl ddaeth o hyd iddynt. Yng Nghymru, mae arbenigwyr yn Adran Hanes ac Archaeoleg Amgueddfa Cymru yn gwneud asesiad cychwynnol o’r eitem(au), cyn anfon adroddiad at y crwner, a chynhelir cwest ffurfiol os yw amgueddfa eisiau caffael yr eitemau. Mewn rhai achosion, bydd Amgueddfa Cymru yn caffael trysorau ar gyfer y casgliad cenedlaethol. Mae’r project Hel Trysor; Hel Straeon [link to Saving Treasures page] bellach yn galluogi amgueddfeydd lleol i gaffael trysor gyda chyllid grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Mae eitem yn cael ei hystyried yn drysor os yw’n:

  • Fwy na 300 mlwydd oed a bod mwy na 10% ohoni’n fetel gwerthfawr (arian neu aur) yn ôl ei phwysau, heblaw darn arian;
  • Casgliad o ddau neu fwy o ddarnau arian sy’n cael eu canfod gyda’i gilydd cyn belled â bod mwy na 10% ohonynt yn fetel gwerthfawr a’u bod yn fwy na 300 mlwydd oed. Deg darn arian neu fwy sydd dros 300 mlwydd oed sy’n cael eu canfod gyda’i gilydd a llai na 10% ohonynt wedi’i wneud o fetel gwerthfawr;
  • Unrhyw eitem gynhanesyddol y mae rhyw ran ohoni wedi’i gwneud o fetel gwerthfawr, neu, grŵp yn cynnwys o leiaf ddwy eitem gynhanesyddol sydd wedi’u gwneud o fetel o unrhyw fath.

Os yw eitem yn cael ei datgan yn drysor, yna bydd yn cael ei phrisio gan Bwyllgor Prisio Trysor annibynnol yn Llundain a bydd y wobr amdani yn cael ei rhannu’n gyfartal rhwng y sawl a ddaeth o hyd iddi a pherchennog y tir gan amlaf. Yna, bydd gan amgueddfeydd yr hawl i’w chaffael ar gyfer eu casgliadau. Os nad yw’n cael ei datgan yn drysor, caiff ei dychwelyd i’r sawl a ddaeth o hyd iddi.

Ydych chi wedi dod o hyd i rywbeth

a allai fod yn Drysor?