Digwyddiadau Digidol
DigwyddiadauDigwyddiad Digidol: Wythnos Addysg Oedolion 2020

Dysgwyr yn mwynhau'r cwrs Ysgrifennu Creadigol yn Sain Ffagan a gynhaliwyd ym Mai 2019 gan adran Ehangu Mynediad Brifysgol Fetropolitan Caerdydd.
Eleni mae Wythnos Addysg Oedolion yn mynd yn ddigidol!
Mae Amgueddfa Cymru wedi gweithio’n agos gyda'r Sefydliad Dysgu a Gwaith i gyfrannu tuag at yr ymgyrch dros yr haf ac mae gennym raglen lawn wedi paratoi am yr wythnos:
21 – 27 Medi 2020.
Ein prif ffocws am yr wythnos yw gwneud, creu a llesiant.
Dydd Llun 21 Medi
Crëwch eich rhan yn Arddangosfa Gobaith Amgueddfa Wlân Cymru
Mae creadigrwydd a chymuned yn bwysicach nag erioed mewn cyfnod o ynysu, felly rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni i greu arddangosfa ar gyfer Amgueddfa Wlân Cymru: Gobaith.
Gallwch gymryd rhan drwy gyfrannu at flanced enfys enfawr fydd yn cael ei gwnïo at ei gilydd gan wirfoddolwyr, a’i harddangos yn Amgueddfa Wlân Cymru pan fyddwn yn ailagor. Gofynnwn i bob cyfrannwr creu sgwâr bychan o unrhyw liw, boed hynny er enghraifft trwy wau (unrhyw bwyth), gwehyddu neu grosio, ond o faint 8” neu 20cm sgwâr. Lawrlwythwch y patrwm i gael yr union faint, nifer o bwythau ac ati. Ar ôl i’r arddangosfa ddod i ben, byddwn yn creu blancedi llai o’r flanced fawr ac yn eu rhoi i wahanol elusennau.
Beth am wylio ein fideos byr yma i’ch helpu chi i gymryd rhan:
- Sut i greu gwŷdd cardfwrdd a gwehyddu sgwâr
- Sut i ffeltio sgwâr
Dydd Mawrth 22 Medi
Ysbrydolwyd gan…
Dyma wahoddiad i ymateb yn greadigol ar Instagram i gasgliadau @museumwales i ddathlu ailagor yr amgueddfeydd cenedlaethol yng Nghymru.
Byddwn yn rhannu gwrthrych o’r casgliad cenedlaethol i’ch ysbrydoli chi i ymateb yn eich ffordd eich hunan. Gallwch ddewis unrhyw gyfrwng,gan ddefnyddio deunyddiau sydd gennych chi yn y tŷ - darlun, cerflun, gwisg, cerdd, stori, brodwaith, cerfiad… dewiswch chi. Neu, os oes well gennych chi, gallwch ein helpu ni i ail-ddehongli’r gwrthrych, gan rannu eich barn a’ch safbwynt ynghylch beth yw’rgwrthrych, yr hyn mae’n ei gynrychioli i chi a’r stori tu ôl iddo.
Os ydych chi am greu rhywbeth mewn ymateb i’r gwrthrych, tynnwch lun o’r gwaith gorffenedig a’i rannu ar Instagram, gan gofio tagio @museumwales
Edrychwn ymlaen at rannu eich gwaith creadigol ar ein storïau Instagram ar ddiwedd yr wythnos! Mwynhewch greu! Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli i greu rhywbeth yn ystod y cyfnod clo, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein holiadur Casglu Covid
Instagram: @museumwales
https://amgueddfa.cymru/casgliadau/arlein/
#YsbrydolwydGan
Dydd Mercher 23 Medi
Tiwtorialau fideo Crefft ar gyfer Llesiant a Chynaliadwyedd:
Bydd y gyfres hon o diwtorialau crefft 10-15 munud, wedi’u creu ar y cyd rhwng Green Squirrel a phroject GRAFT yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau,yn dilyn thema cynaliadwyedd:
- Sut i wneud GorchuddCwyr Gwenyn (GRAFT)
- Sut i wneud PapurHadau (Green Squirrel)
- Sut i greu edafeddcrys-T (Green Squirrel)
- Sut i wau cadwyn(Green Squirrel)
https://www.greencityevents.co.uk/what-we-do/green-squirrel-workshops/
#Lles #MeddwlMercher #creu #greensquirrel #SgiliauGwyrdd #ecocraft #Crefft #Cymuned
Dydd Iau 24 Medi
Dosbarth Crefft Rhithwir Byw (4.30pm - 8pm)
Ymunwch â ni a’n partner Green Squirrel am y sesiynau crefft rhithwir yn fyw ar Zoom (un sesiwn yn Gymraeg (16.30 – 18.00), un sesiwn yn Saesneg(18.30 – 20.00). Dewch â’ch project crefft presennol neu dewch i fwynhau’r drafodaeth a’r cyfle i gymdeithasu. Gobeithio bydd y sesiwn yn eich ysbrydoli chi i ddechrau crefftio.
Bydd y sesiynau yn dilyn thema ganolog (i’w chyhoeddi yn nes at yr amser) a bydd sgwrs fer ar y thema, ac arddangosiadau crefft.
Dyma sesiwn gyfeillgar ac anffurfiol ac mae croeso i bawb! Rhaid archebu lle ymlaen llaw drwy GreenSquirrel.
Bydd archebion ar gyfer y digwyddiad hwn yn cael eu lansio ddechrau Medi 2020, ynghyd â thema'r sesiwn.
Gallwch aros am y sesiwn gyfan neu alw mewn i ddweud helo.
Instagram: @museumwales @bemoresquirrel
https://www.greencityevents.co.uk/what-we-do/green-squirrel-workshops/
#craftalong #creu #greensquirrel #SgiliauGwyrdd #ecocraft #virtualchat #SgwrsArLein #SkillShare #RhannuSgiliau #Cymuned
Dydd Gwener 25 Medi
Addysg Oedolion yn Amgueddfa Cymru
I ddiweddu Wythnos Dysgwyr Oedolion (21 - 27 Medi) byddwn yn rhannu ein straeon am ddysgu oedolion ar draws Amgueddfa Cymru a gwybodaeth sut igymryd rhan yn y dyfodol.
Dilynwch ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod rhagor am yr hyn sydd gennym i’w gynnig, y gwaith rydym yn ei wneud â’n partneriaid,i weld ein hadnoddau addysg oedolion a chlywed am rai o’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Twitter: @AmgueddfaCymru @Amgueddfa_Learn
Instagram: @museumwales
Facebook: AmgueddaCymru
https://amgueddfa.cymru/addysg/