Digwyddiadau Digidol
DigwyddiadauDigwyddiad Digidol: Sgrinwyna 2021


Rydym wrth ein boddau i ddweud bod #sgrinwyna yn dychwelyd ac yn sicr o lonni eich diwrnod!
Rydym ni gyd yn sownd tu fewn, ac mae’r newyddion yn reit ddiflas - ond dyw’r defaid ddim yn gwybod hynny! Efallai na fydd modd i chi ymweld â ni yn y cnawd, ond bydd dal modd i chi ddilyn yr holl gyffro o’r sied wyna yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Ymunwch â ni yn https://amgueddfa.cymru/sgrinwyna/ wrth i ni ddathlu deffroad y Gwanwyn gyda dyfodiad yr ŵyn bach!
Facebook Live – Sgrinwyna
Dydd Sul 28 Chwefror a dydd Sul 7 Mawrth, 2-4pm
Oes gennych chi gwestiynau am ein defaid ar gyfnod prysura’r flwyddyn? Galwch draw i dudalen Facebook Sain Ffagan ar gyfer ein sesiynau byw arbennig. Bydd y tîm yno’n barod i helpu superffans y sgrîn wyna a ffans newydd sbon!