Digwyddiadau Digidol
DigwyddiadauDigwyddiad Digidol: Bronwen Lewis Yn Fyw o Amgueddfa’r Glannau

Mae Bronwen Lewis yn un o dalentau ifanc mwyaf cyffrous Cymru. Ymddangosodd ar raglen The Voice y BBC ac yn y ffilm boblogaidd Pride.
Ymunwch â Branwen o gysur eich cartref, wrth i’w seiniau teimladwy lenwi Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, yn y perfformiad cyfnod clo arbennig hwn.
Bydd y cyngerdd hwn yn cael ei ffrydio’n fyw trwy ein tudalen Amgueddfa Cymru Facebook, am 4pm ddydd Su,l ac hefyd ar gael trwy ‘YouTube’
Mae'r sesiwn hon yn 30 munud o hyd. Mae'n addas ar gyfer pob oedran.
Er hwylustod i chi, bydd yn cael ei ffrydio ac ar gael tan 1 Mawrth fel y gallwch ei fwynhau pryd bynnag y bydd yn gyfleus i chi. Cliciwch ar y ddolen i ymuno.
Gobeithio y gwnewch chi fwynhau a dyma ddymuno'r gorau i chi ar gyfer Dydd Gŵyl Ddewi.