Digwyddiadau Digidol
DigwyddiadauDigwyddiad Digidol: Dysgwch yr Anthem Genedlaethol

Ydych chi wastad wedi bod eisiau dysgu’r Anthem?
Dyma’ch cyfle! Archebwch eich lle er mwyn ymuno â’r delynores Delyth Jenkins ar y sesiwn hwyliog ac anffurfiol hon, a fydd yn digwydd yn fyw. Yn addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg o bob gallu.
Mae'r sesiwn fyw hon yn 45 munud o hyd. Mae'n addas ar gyfer plant hŷn ac oedolion.
Bydd y sesiwn hon dros Zoom. Archebwch eich lle am ddim, trwy'r ddolen isod. Nifer cyfyngedig o docynnau ar gael.
Nodwch y bydd y gosodiadau ar gyfer y gweithdy hwn yn galluogi eich dyfais camera, ond mae’r defnydd o’ch camera yn hollol ddewisol. Ond byddem wrth ein bodd i glywed eich llais!
Gobeithio y gwnewch chi fwynhau a dyma ddymuno'r gorau i chi ar gyfer Dydd Gŵyl Ddewi.
Geiriau Yr Anthem Genedlaethol