Digwyddiadau Digidol
DigwyddiadauDigwyddiad Digidol: Hwyrnos: Y FAGDDU

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Artes Mundi yn gyffrous i gyhoeddi Hwyrnos: Y FAGDDU, gŵyl o ddigwyddiadau ar-lein fydd yn dathlu Düwch fel peth diderfyn a diddiwedd. Mae’r gyfres yn cynnwys comisiynau aml-gyfrwng sy’n trafod effaith Ymerodraeth Prydain a’i diwylliant ar bobl Ddu a’u hanes, ac edrych ar ffyrdd newydd o freuddwydio ar y cyd.
Bydd Hwyrnos: Y FAGDDU yn cyflwyno digwyddiadau bob nos Iau drwy gydol mis Mai 2021 gan gynnwys gweithiau newydd eofn gan artistiaid Y FAGDDU – Gabin Kongolo, June Campbell-Davies, Omikemi ac Yvonne Connikie – a gomisiynwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Artes Mundi. Ynghyd â’r comisiynau hyn, bydd Hwyrnos: Y FAGDDU yn cyflwyno dangosiadau ffilm, setiau DJ, teithiau Hanes Du arbennig drwy gasgliadau Amgueddfa Cymru a deunydd ychwanegol o arddangosfa Artes Mundi 9.
Hwyrnos: Y FAGDDU yn cyflwyno:
6 Mai - June Campbell-Davies
Ymholiad drwy berfformiad yw Sometimes we’re invisible, sy’n ystyried presenoldeb pobl Ddu yng ngweithiau celf casgliad hanesyddol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
13 Mai - Gabin Kongolo
Cerdd ffilmig yw NDAKO (Home) sy’n datgelu natur farddonol y profiad o ddod i Gymru o’r Congo fel ffoaduriaid.
20 Mai - Omikemi
Gwaith celf sain wedi ei gynhyrchu fel cywaith yw Dreaming Bodies, wedi’i ddatblygu o ymholiad corfforol sy’n canolbwyntio ar ofal ar gyfer pobl Du LHDTQRhA+ anabl.
27 Mai - Yvonne Connikie
Daw enw A time for New Dreams o deitl llyfr gan Ben Okri, casgliad o draethodau ar sut le yw’r byd a sut le y gallai fod. Amlygiad arbrofol, sy’n pontio cenedlaethau o freuddwydion cenhedlaeth Windrush yng Nghymru.
Cewch fwy o wybodaeth am y digwyddiadau unigol yma trwy ddilyn y dolenni isod.
Gwybodaeth Bwysig
- Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael ac mae'n rhaid archebu ymlaen llaw.
- Tocynnau yn £6 y digwyddiad + ffioedd Eventbrite. Os yn prynu tocynnau i'r 4 digwyddiad gyda'i gilydd, dewisiwch y tocyn 'Gostyngiad' am ostyngiad o 15%.
- Bydd y cynnwys ar gael ar y dydd trwy Borth Ar-lein Eventbrite. Bydd mwy o wybodaeth am sut i ymuno â'r digwyddiad yn cael ei rannu maes o law.
- Mae peth o'r cynnwys wedi eu recordio o flaen llaw, felly gallwch fwynhau'r sesiynau yma ar eich cyflymder eich hun. Rydym yn argymell eich bod yn ymuno â'r elfennau byw ar y pryd er mwyn cael y profiad gorau. Byddwn yn cyhoeddi amserlen llawn cyn y digwyddiad.
- Bydd y cynnwys ar gael i ddeiliaid tocynnau tan 5pm dydd Gwener 4 Mehefin 2021. Byddwn hefyd yn darparu recordiadau o'r elfennau byw ar ôl y digwyddiad.
- Telerau ac Amodau i Gyfranogwyr/Mynychwyr Digwyddiadau Ar-lein (Amgueddfa Cymru, 2021)