Digwyddiadau Digidol

Digwyddiadau

Digwyddiad Digidol: Sgwrs Amgueddfa: The Impressionists - Manet | Saesneg

8 Gorffennaf 2021, 6pm
Pris Tallwch Beth Gallwch - Rhodd a awgrymir: £5
Addasrwydd Pawb
 Teitl Sgwrs Amgueddfa - Museum Talks ar cefndir bwrdd sialc

Portread o Monsieur Jules Dejouy gan Edouard Manet

Wedi ei baentio ym 1879, portread Manet o Jules Dejouy (1815-1894) yw un o bortreadau diweddarach mwyaf arwyddocaol yr artist, sydd wedi ‘ailymddangos’ yn ddiweddar wedi sawl degawd mewn casgliad preifat, i ffwrdd o lygaid y cyhoedd. Mae’r portread annwyl a bywiog hwn o gefnder Manet yn dangos rhywun a ddaeth yn ffigwr pwysig ym mywyd yr artist wedi marwolaeth ei dad ym 1862. Bydd y sgwrs hon yn ystyried arwyddocâd y portread yng nghyd-destun gyrfa Manet ac yn esbonio sut y mae’n atodiad perffaith i’r casgliad byd enwog o gelf argraffiadol a roddwyd yn gymynrodd i Amgueddfa Cymru gan y chwiorydd a’r casglwyr arloesol Gwendoline a Margaret Davies. Bydd hefyd yn cyflwyno’r project cadwraeth arfaethedig sy’n bwriadu trawsnewid y paentiad a’i adfer i’w edrychiad gwreiddiol.

Bydd y sgwrs hon yn cael ei chynnal drwy gyfrwng Iaith Gyntaf y Curadur: Saesneg

Rhaglen llawn

Digwyddiadau