Digwyddiadau Digidol
DigwyddiadauDigwyddiad Digidol: Sgwrs Amgueddfa

Sgyrsiau Amgueddfa gan ein Curaduron a'n Cadwraethwyr
Cyfle i chi gael clywed mwy am gasgliadau Amgueddfa Cymru a’r straeon sydd ganddynt i’w hadrodd.
Mae ein curaduron a’n cadwraethwyr yn edrych ymlaen i rannu eu harbenigedd ar y pynciau canlynol gyda chi, mewn cyfres o sgyrsiau a sesiynau holi ac ateb ar-lein:
- Gwyddorau Naturiol
- Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol
- Hanes Diwydiannol
- Celf
- Archaeoleg
Elusen yw Amgueddfa Cymru ac mae pob ceiniog a godir yn cefnogi ein gwaith gyda chymunedau ledled Cymru. Rydym yn awgrymu rhodd-daliad o £5 ar gyfer pob sgwrs ond talwch yr hyn a allwch.