Digwyddiadau Digidol

Digwyddiadau

Digwyddiad Digidol: Gŵyl Archaeoleg 2021: canfyddiadau newydd a gwaith diweddar yng Nghymru

29 Gorffennaf 2021, 6.30pm - 8.40pm
Pris Tallwch Beth Gallwch - Rhodd a awgrymir: £5
Addasrwydd Oedolion
Archebu lle Eventbrite
Darnau arian Rhufeinig
Cloddio archeolegol
Cloddio archeolegol

Cloddiadau yn Tai Cochion, Gwynedd. © Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd.

Dathliad o waith diweddar sydd wedi ei wneud gan bedair Ymddiriedolaeth Archeolegol Cymru ac Amgueddfa Cymru, a gyflwynir mewn cyfres o sgyrsiau byrion gan arbenigwyr blaenllaw o bob rhan o Gymru.  Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Ŵyl Archaeoleg y CBA.

Tocynnau

Amserlen yr ŵyl

6.30pm

Croeso gan Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil.

Sesiwn 1: Gwaith diweddar mewn Archaeoleg Gymreig

6.35pm                            Siaradwr

  • Cloddiad yng nghaer Porth y Rhaw o gyfnod Oes yr Haearn, Sir Benfro. Gan Ken Murphy, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed. (Yn Saesneg, 10 munudau)
  • Tu hwnt i Tacitus: tair canrif o feddiant Rhufeinig yng ngogledd Cymru. Gan Dave Hopewell, Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd. (Yn Saesneg, 10 munudau)
  • Ffiniau ffyrnig: gwaith diweddar ar archaeoleg ganoloesol yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru. Gan Dr Paul Belford, Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys. (Yn Saesneg, 10 munudau)
  • Arloesedd wrth warchod, ymchwilio a chyflwyno Archaeoleg Ddiwydiannol De Cymru. Gan Andrew Marvell, Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent. (Yn Saesneg, 10 munudau)
  • Cwestiynau - Kath Davies (10 munudau)

7.30pm             

              CWIS A THORIAD (15 munudau)

Sesiwn 2: Gwaith Amgueddfa Cymru ar hyn o bryd

7.45pm             

              Croeso gan Kath Davies           

7.50pm              Siaradwyr        

  • Treftadaeth symudol: trysor i Gymru. Gan Adam Gwilt. (Yn Saesneg, 10 munudau)
  • Holt Rhufeinig: Hanes o ddiddordeb lleol, ddoe a heddiw. Gan Evan Chapman. (Yn Saesneg, 10 munudau)
  • Cymru Ganoloesol Gynnar – dwy deyrnas, dwy safle, dau gloddiad. Gan Mark Redknap. (Yn Saesneg, 10 munudau)
  • Darn o bren o Sycharth. Gan Dafydd Wiliam.  (Yn Gymraeg, 10 munudau)
  • Cwestiynau - Kath Davies

8:35pm

              Diolch - Kath Davies

8.40pm

              Diwedd

Gwybodaeth am y Siaradwyr

‘Cloddiad yng nghaer Porth y Rhaw o gyfnod Oes yr Haearn, Sir Benfro’.

Mae caer ryfeddol Porth y Rhaw yn dioddef o erydiad arfordirol difrifol. Roedd cloddiadau Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed yn y 1990au yn arddangos potensial archeolegol mawr y safle. Dychwelodd yr Ymddiriedolaeth i barhau â’r cloddiadau yn 2019 a bydd cloddiadau pellach yn cael eu cynnal yn ystod haf 2021. Bydd y sgwrs fer hon yn disgrifio canlyniadau’r cloddiadau.

Ken Murphy yw Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed. Archeolegwr maes yw Ken, gyda dros 45 mlynedd o brofiad yn y DU. Graddiodd mewn archaeoleg a daearyddiaeth o Brifysgol Southampton ym 1976 ac wedi hynny gweithiodd ar nifer o brojectau maes a phrojectau eraill mewn nifer o leoliadau yn Lloegr cyn ymuno ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed ym 1979.

‘Tu hwnt i Tacitus: tair canrif o feddiant Rhufeinig yng ngogledd Cymru’.

Rydym yn ddigon cyfarwydd â chwymp y derwyddon ar Ynys Môn, diolch i ddisgrifiadau lliwgar Tacitws o’r brwydro, ond beth ddigwyddodd wedi hyn? Roedd y Rhufeiniaid yma am dros 300 mlynedd, neu 12 cenhedlaeth. Peidiodd gogledd Cymru â bod yn barth milwrol ond yn sicr ni chafodd ei Rhufeinio’n helaeth. Beth oedd yn digwydd yng ngogledd Cymru yn ystod y cyfnod hir ac ansemwyth hwn o gydfodoli?

Uwch-Archeolegydd yn Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd yw David Hopewell. Mae’n rheoli a chyflwyno llawer o raglen Cadw o arolygon a chloddiadau cymunedol sy’n cael eu hariannu gan grantiau. Mae’r projectau hyn wedi arwain at ddarganfyddiadau sy’n torri tir newydd, gan gynnwys pentref Rhufeinig ar lannau’r Fenai ac annedd canoloesol cynnar prin wedi ei gladdu o dan dwyni tywod ar Ynys Môn. Ef yw awdur Roman Roads in North-West Wales ac yn ystod pandemig Covid mae wedi cyflwyno cyfres o ddarlithoedd ar-lein am ogledd Cymru yn ystod y cyfnod Rhufeinig.

‘Ffiniau ffyrnig: gwaith diweddar ar archaeoleg ganoloesol yng nghanolbarth a gogledd-ddwyrain Cymru’.

Bydd y sgwrs hon yn casglu canlyniadau ynghyd o gyfres o brojectau i archwilio dealltwriaeth newydd o Gymru canoloesol. Mae’r gwaith yn cynnwys cloddiadau ar Glawdd Offa a Chlawdd Wat, ynghyd â chyfres o gestyll Cymreig a Seisnig, ac adolygiad o rai o’r anneddiadau sefydledig o’r cyfnod canoloesol diweddarach. Caiff elfennau o waith archaeoleg wedi ei yrru gan ymchwil, a gwaith archaeoleg wedi ei yrru gan ddatblygiad eu cymharu a’u trafod.

Dr Paul Belford FSA MCIfA yw Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys. Mae Paul yn archeolegwr sydd â llawer o brofiad ar draws y DU a thramor, ac mae ei brif ddiddordebau archeolegol yn cynnwys archaeoleg canoloesol a chynnar. Mae Paul wedi cyhoeddi’n helaeth; ac mae ei lyfr diweddaraf yn gyd-olygiad: astudiaeth o archaeoleg ddinesig yn Ewrop.

‘Arloesedd wrth warchod, ymchwilio a chyflwyno Archaeoleg Ddiwydiannol De Cymru’.

Mae’r modd y cafodd de Cymru ei egsbloetio’n ddiwydiannol o ddiwedd yr 17eg ganrif wedi creu amgylchedd hanesyddol nodedig, sy’n weladwy ac yn guddiedig, yn ymestyn ymhell y tu hwnt i weddillion ffisegol diwydiant, at y trefi a’r anheddau llai a ddatblygodd o ganlyniad i’r diwydiant. Mae’r ardaloedd hyn wedi cael llawer o sylw gan haneswyr. Ond mae defnyddio technolegau newydd yn caniatáu i archeolegwyr ddisgrifio’r tirlun er mwyn llywio sut y caiff y tirlun ei reoli yn y dyfodol ac i astudio a chofnodi gweddillion claddedig ar raddfa nad oedd yn bosibl o’r blaen.

Andrew Marvell yw Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent. Mae wedi gweithio yn y sector amgylcheddol am dros ddeugain mlynedd. Mae’n Gymrawd etholedig o’r Society of Antiquaries ac yn aelod o’r Sefydliad Siartredig ar gyfer Archeolegwyr. Mae wedi cyfarwyddo a chyhoeddi canlyniadau nifer o gloddiadau ac wedi goruchwylio rhaglenni gwaith cymhleth er mwyn gwella’r broses o ddiogelu a hyrwyddo amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae wedi cyfrannu at ddatblygiad safonau arferion archeolegol proffesiynol yn y Deyrnas Unedig a strategaethau ar gyfer rheoli, archwilio a darparu gwybodaeth effeithlon am archaeoleg Cymru.

‘Treftadaeth symudol: trysor i Gymru’.

Bob blwyddyn, caiff rhagor o drysor ei ganfod a’i gofnodi gan aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru, gan ddatguddwyr metel fel arfer. Bydd Adam Gwilt yn trafod darganfyddiadau trysor diweddar, gan gyflwyno gwylwyr i waith parhaus yr Amgueddfa o adrodd ynghylch darganfyddiadau. Caiff pwysigrwydd trysor fel adnodd treftadaeth diwylliannol ei bwysleisio, fel modd i’r cyhoedd ymgysylltu gyda’n gorffennol.

Adam Gwilt yw Prif Guradur Cynhanes Amgueddfa Cymru.

‘Holt Rhufeinig: Hanes o ddiddordeb lleol, ddoe a heddiw ‘.

Yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid, roedd tref fach Holt yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn safle ar gyfer odynau oedd yn cynhyrchu teils, briciau a chrochenwaith ar gyfer y gaer Rhufeinig yn Nghaer. Erbyn 1905 roedd y safle gerllaw fferyllfa a chafodd ei gloddio gan gyfreithiwr lleol rhwng 1907-15. Yn y blynyddoedd diwethaf mae Cymdeithas Hanes Lleol Holt wedi ymddiddori o’r newydd yn y safle, gan arwain at arddangosfa yn Amgueddfa Wrecsam yr haf hwn. 

Evan Chapman yw Prif Guradur Archeoleg Amgueddfa Cymru.

‘Cymru Ganoloesol Gynnar – dwy deyrnas, dwy safle, dau gloddiad ‘.

Rhwng 1989 a 1994 cloddiodd yr amgueddfa’r crannog brenhinol ar Lyn Syfaddan, o fewn teyrnas Brycheiniog, wedi’i ddilyn gyda chloddiadau rhwng 1994 a 2012 yn Llanbedrgoch, Ynys Môn. Yn gyfoes ond yn wahanol, mae’r ddau safle yn taflu goleuni newydd ar y cyfnod lle’r oedd dwy deyrnas mewn ymryson.

Dr Mark Redknap yw Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil (Hanes ac Archaeoleg), Amgueddfa Cymru.

‘Pren o Sycharth’.

Arweiniodd Owain Glyndŵr wrthryfel yn erbyn brenin Lloegr ar ddechrau’r 15fed ganrif. Sycharth, ger Llansilin ym Mhowys, oedd ei gartref. Ym 1403 cafodd yr ystâd ei losgi i’r llawr gan y brenin Harri’r 5ed. Yn rhyfeddol, llwyddodd un darn o bren i oroesi, a chafodd ei roi i’r Amgueddfa ym 1931.

Dafydd Wiliam yw Prif Guradur Adeiladau Hanesyddol yn Amgueddfa Cymru.

Gwybodaeth Bwysig

 

Digwyddiadau