Digwyddiadau Digidol

Digwyddiadau

Digwyddiad Digidol: Coginio pizza gyda’n gilydd o ardd gymunedol yr Amgueddfa

25 Mehefin 2021, 7pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Rhifau Cyfyngedig. Archebu yn hanfodol

Ymunwch â ni o ardd ddinesig hyfryd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ar gyfer dwy sesiwn ddigidol flasus a diddorol.

Ar gyfer y ‘cwrs cyntaf’ rydym wedi ymuno gyda’r caffi hyfryd a llesol Hoogah yn Abertawe, i gynnal sesiwn goginio gyda’n gilydd o gartref lle byddwn yn creu pizza perffaith, ac yna gallwch eistedd yn ôl a mwynhau wrth i ni sôn rhagor wrthych am broject gardd gymunedol GRAFT.

 

1- Coginio pizza gyda Hoogah 

Ffordd wych, hwyliog i ddechrau’r penwythnos, gyda’r canllaw syml a hawdd hwn i greu pizza tymhorol.

Ar yr un pryd, dysgwch fwy am dyfu eich cynhwysion eich hun, sut i fwyta’n ‘Araf ac yn Dymhorol’, ynghyd â chanfod perlysiau a dysgu am gynaliadwyedd. Wedi ei ffilmio yn ein Gardd GRAFT, gan ddefnyddio ein ffwrn glai sydd wedi ei hadeiladu mewn dull traddodiadol.

Mae 2 ffordd i gymryd rhan yn ein sesiwn coginio gyda’n gilydd 

  1. Lawrlwythwch ein cerdyn rysáit YMA i gasglu cynhwysion yn barod ar gyfer y digwyddiad
  2. Archebwch becyn creu pizza 

Mae hwn ar gael i’r rheiny sy’n lleol i Abertawe.

Byddwch chi’n casglu eich pecyn o Hoogah, Heol Brynymor, Brynmill, Abertawe (archebwch erbyn dydd Mercher 23 Mehefin) 

Mae citiau rhwng £ 8.50 - £ 15.00, ffoniwch 01792 449731 i roi eich archeb

 

2 - Gardd GRAFT yr Amgueddfa “Helo a Chroeso!”

Ymunwch â Zoe ac Owen, ar-lein o’r ardd GRAFT, ar gyfer stori sut y daeth yr ardd i fodoli, ynghyd â’r heriau a’r gogoniannau annisgwyl sy’n dod o weithio gyda natur mewn amgylchedd ddinesig.

Mae GRAFT wedi dod yn ofod amlweddog: yn osodiad celf, yn ardd gymunedol, yn adnodd bwyd dinesig, yn adnodd dysgu ac yn hafan ar gyfer y gymuned leol.

 

Archebwch eich tocyn am ddim FAN HYN

 

Digwyddiadau