Digwyddiadau Digidol
DigwyddiadauDigwyddiad Digidol: Dosbarth Meistr Coctêls, gyda chylchgrawn Blasus

Delwedd o coctêl

Delwedd o Rob Jones - cylchgrawn Blasus

Logo cylchgrawn Blasus
Yr Awr Fawr!
Ymunwch â sylfaenydd a golygydd Cylchgrawn Blasus, Rob Jones, ar daith o gwmpas Cymru drwy gyfrwng 3 coctêl blasus. Bydd yn dangos i chi sut i greu tri clasur o goctêl blasus gan ddefnyddio cynnyrch Cymreig, tra’n dod i nabod y bobl tu ôl i'r cynnyrch.
Gwesteion: Tra'n gweini'r coctels, bydd Rob yn sgwrsio gyda chynrychiolwyr o Penderyn, Welsh Sisters Gin a Treganna Gin i glywed mwy am eu cynnyrch a'r broses ddistyllu.
Am bris eich tocyn cewch...
- gymryd rhan mewn dosbarth creu coctêls sy'n para 1½ - 2 awr
- gwrdd â rhai o'r cynhyrchwyr i glywed mwy am y broses ddistyllu a chyfnewid nodiadau blasu
- fynediad at rhestr llawn o'r cynhwysion a'r offer bydd eu hangen wythnos cyn y digwyddiad
Yfwch yn gyfrifol
Cylchgrawn a chymuned ddwyieithog annibynnol ar-lein yw Blasus sy'n amlygu straeon, pobl a chreadigrwydd sîn fwyd Cymru, a thu hwnt.
Gwybodaeth Bwysig
Addas i: 18+
Ffurf: Digidol. Bydd pawb sy’n mynychu yn derbyn dolen i ymuno â'r dosbarth meistr yn nes at y dyddiad.
Iaith: Bydd yr holl ddeunyddiau ysgrifenedig ar gyfer y digwyddiad hwn yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg). Bydd yr elfennau byw yn cael eu darparu yn Saesneg.
Tocynnau: Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw. Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael. Pris fesul sgrin/aelwyd.
Noder: Nid yw pris y tocyn yn cynnwys y deunyddiau/offer. Caiff rhestr gynhwysion ei rhannu gyda’r mynychwyr cyn y digwyddiad.



