Digwyddiadau Digidol
DigwyddiadauDigwyddiad Digidol: Noson Cyrri Nos Wener o Ardd GRAFT yr Amgueddfa

Delwedd o curry
Ymunwch â ni o ardd ddinesig hyfryd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ar gyfer noson flasus a phersawrus o gyrri a cherddoriaeth.
Coginio Cyrri Ar y Cyd – dysgwch sut i greu cyrri tymhorol cartref, ffres sy'n cynnwys llysiau gwyrdd arbennig o ardd yr Amgueddfa, wedi ei weini gyda pakora a salad. Canllaw cam wrth gam hawdd gyda'r cogydd, ac un o swyddogion ymgysylltu’r Amgueddfa, Sathia. Bydd lassi aeron blasus yn gydymaith i'r pryd.
Gardd GRAFT yr Amgueddfa "Helo a Chroeso!" – hanes sut y daeth creu gardd GRAFT yn ofod amlweddog: yn osodiad celf, yn ardd gymunedol, yn adnodd bwyd dinesig, yn adnodd dysgu ac yn hafan ar gyfer y gymuned leol.
Cerddoriaeth Gardd – mwynhewch gcerddoriaeth Gymreig lleol o'n lleoliad hyfryd yn Abertawe.
Caiff y digwyddiad yma ei gynnal yn Saesneg.
Gwybodaeth Bwysig
Dietegol: Mae'r rysáit yn un fegan a heb glwten
Ffurf: Digidol (trwy Eventbrite). Bydd pawb sy’n mynychu yn cael mynediad i'r cynnwys ar ddiwrnod y digwyddiad trwy Borth Ar-lein Eventbrite.
Iaith: Bydd yr holl ddeunyddiau ysgrifenedig ar gyfer y digwyddiad hwn yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg). Bydd y deunydd fideo yn Saesneg.
Tocynnau: Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw. Talwch Beth Gallwch (awgrymwn gyfraniad o £5).
Noder: Nid yw pris y tocyn yn cynnwys y deunyddiau/offer. Caiff rhestr gynhwysion ei rhannu gyda’r mynychwyr cyn y digwyddiad.




