Digwyddiadau Digidol
DigwyddiadauDigwyddiad Digidol: Dathlu Gwlân


Dathlwch Wythnos Wlân gyda'n digwyddiadau gwlanog gwych gan gynnwys Prynhawn Crefft Digidol, lansio profiad digidol Amgueddfa Wlân Cymru, Pecyn Gweithgareddau Gwlanog i'r Teulu a lansio Arddangosfa Gobaith Amgueddfa Wlân Cymru.
Mae archebu tocyn yn hanfodol ar gyfer y Prynhawn Crefft Digidol a Phecyn Gweithgareddau Gwlanog i'r Teulu. Am fwy o wybodaeth a thocynnau cliciwch ar y digwyddiadau isod!
Prynhawn Crefft Digidol - Cliciwch yma i archebu eich tocyn am ddim ar gyfer y Prynhawn Crefft Digidol!
Rhowch gynnig ar amrywiaeth o weithgareddau crefftus wrth i chi ddysgu mwy am ddiwydiant gwlân Cymru, casgliadau Amgueddfa Cymru a'r broses o ddafad i ddefnydd a mwynhewch o'ch cartref. Cymerwch amser i ymlacio gyda'n fideo nyddu cysurlon. Gallwch ddod â’ch projectau crefft eich hun, neu roi cynnig ar y crefftau yn ein fideos. Dewiswch chi! Anfonir rhestr atoch o eitemau sydd eu hangen i gymryd rhan yn y fideos crefft yn ystod y Prynhawn Crefft o flaen llaw, i roi'r amser i chi baratoi ar gyfer y digwyddiad, os yr ydych yn dewis i rhoi cynnig ar y fideos crefft.
Bydd cynnwys digidol y digwyddiad ar gael i ddeiliaid tocynnau rhwng 12pm Dydd Sadwrn 2 Hydref a 6pm Dydd Sul 3 Hydref. Mae'r cynnwys wedi'i recordio ymlaen llaw, dim rhaglen benodol ar gyfer y digwyddiad, fel y gallwch chi fwynhau'r Prynhawn Crefft Digidol yn eich pwysau.
Pecyn Gweithgareddau Gwlanog i'r Teulu - Cliciwch yma i archebu eich tocyn am becyn digidol am ddim!
Mwynhewch ein Pecyn Gweithgareddau Gwlanog gyda phethau gwlân i gyd. Crëwch grefftau dafad gwych, dysgu mwy am y broses o ddafad i ddefnydd a chyfarfod â staff Amgueddfa Cymru i ddysgu mwy am gasgliad Amgueddfa Wlân Cymru. Hwyl i’r teulu cyfan!
Mae'r cynnwys wedi'i recordio ymlaen llaw, dim rhaglen benodol ar gyfer digwyddiad, fel y gallwch chi fwynhau'r gweithgareddau yn eich pwysau.
Anfonir rhestr atoch o eitemau sydd eu hangen i gymryd rhan yn y fideos crefft o flaen llaw, i roi amser i chi baratoi ar gyfer y digwyddiad.
Ar y cyd â Menter Gorllewin Sir Gâr, British Wool a Jig-So.
Lansio Profiad Digidol Amgueddfa Wlân Cymru - Cliciwch yma am fwy o wybodaeth!
Crwydrwch Amgueddfa Wlân Cymru mewn ffordd newydd sbon!
Lansio Arddangosfa Gobaith Amgueddfa Wlân Cymru - Cliciwch yma am fwy o wybodaeth!
Lansiwyd y project ar ddechrau'r cyfnod clo COVID-19 cenedlaethol ym mis Ebrill 2020, wrth i ni wahodd aelodau'r cyhoedd, staff a gwirfoddolwyr Amgueddfa Cymru i greu sgwariau lliw enfys, gan ddefnyddio eu hoff dechneg – gweu, ffeltio, gwehyddu neu grosio, gydag unrhyw ddeunyddiau oedd ganddyn nhw ar y pryd, o wlân i edau acrylig. Mae Gwirfoddolwyr Amgueddfa Wlân Cymru a staff Amgueddfa Cymru wedi bod yn uno'r sgwariau i greu llwyth o flancedi lliwgar prydferth, fydd yn cael eu harddangos yn Iard Hir yr Amgueddfa. Ewch i dudalen yr arddangosfa ar ein gwefan, fydd yn cynnwys fideo 'Straeon y Sgwariau', fideo time-lapse o'r arddangosfa a thaith o gwmpas yr arddangosfa ei hun hefyd.