Digwyddiadau Digidol
DigwyddiadauDigwyddiad Digidol: Dathlu Gwlân: Prynhawn Crefft Digidol


Dafad
Rhowch gynnig ar amrywiaeth o weithgareddau crefftus wrth ddysgu mwy am ddiwydiant gwlân Cymru, casgliadau Amgueddfa Cymru a'r broses o ddafad i ddefnydd. Dewch i weithio ar eich projectau crefft cyfredol, neu roi cynnig ar rai o'r crefftau yn ein fideos. Dewiswch chi! Mae nifer cyfyngedig o docynnau. Archebwch eich tocyn am ddim isod!
Bydd cynnwys digidol y digwyddiad ar gael i ddeiliaid tocynnau rhwng 12pm Dydd Sadwrn 2 Hydref a 6pm Dydd Sul 3 Hydref. Mae'r cynnwys wedi'i recordio ymlaen llaw, dim rhaglen benodol ar gyfer y digwyddiad , fel y gallwch chi fwynhau'r Prynhawn Crefft Digidol yn eich pwysau.
NODER:
Bydd rhestr o eitemau sydd angen ar gyfer y fideos crefft yn cael ei danfon i chi cyn y digwyddiad er mwyn rhoi amser i chi paratoi. Mae'r fideos yn ddewisol.
Ymunwch â ni:
-
Dysgu mwy am gasgliad gwlân Amgueddfa Cymru ddoe a heddiw, a sut mae wedi dylanwadu ar gasgliad Alexander McQueen.
-
Darganfod rhagor am y broses o ddafad i ddefnydd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac Amgueddfa Wlân Cymru.
-
Mwynhewch arddangosiad lliwio naturiol gan Susan Martin a darganfod mwy am Ardd Liwurau yr Amgueddfa Wlân Cymru sy'n cael ei chynnal gan Wirfoddolwyr yr Ardd.
-
Uwchgylchu siwmper wlanog i greu het gyda Carys Hedd, perchennog Wench Wear, label dillad wedi'u hailgylchu annibynnol.
-
Ffeltio dafad fach wlanog â nodwydd gan Gwenllian Roberts, Swyddog Addysg a Digwyddiadau, Amgueddfa Lechi Cymru.
-
Rhoi cynnig ar ffeltio a gwehyddu sgwâr gyda Non Mitchell, Crefftwraig Amgueddfa Wlân Cymru.
-
Ymuno â Thomas Jay Jones, crefftwr dan hyfforddiant yn Amgueddfa Wlân Cymru, wrth iddo nyddu gwlân ar un o droellau'r Amgueddfa.
-
A Darganfod llawer mwy...
Bydd yr holl gynnwys digidol ar gyfer y digwyddiad hwn yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) ac eithrio rhai elfennau i'w gadarnhau.Darperir isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gyfer pob fideo.