Digwyddiadau Digidol
DigwyddiadauDigwyddiad Digidol: Dathlu Gwlân: Pecyn Gweithgareddau Gwlanog i’r Teulu Digidol

Mwynhewch ein Pecyn Gweithgareddau Gwlanog gyda phob peth gwlân.
Bydd deunydd digidol y digwyddiad ar gael i ddeiliaid tocynnau rhwng 10am ddydd Sul 3 Hydref a 6pm ddydd Llun 4 Hydref. Mae nifer cyfyngedig o docynnau. Archebwch eich tocyn am ddim isod!
Anfonir rhestr atoch o eitemau sydd eu hangen i gymryd rhan yn y fideos crefft o flaen llaw, i roi amser i chi baratoi ar gyfer y digwyddiad.
Yn cynnwys:
-
Creu crefftau dafad creadigol
-
Dysgu mwy am y broses o ddafad i ddefnydd
-
Cyfarfod â staff Amgueddfa Cymru i ddysgu rhagor am gasgliad gwlân Amgueddfa Cymru
-
Dysgu mwy am bob peth gwlân!
-
A llawer mwy...
Bydd deunydd digidol y digwyddiad ar gael i ddeiliaid tocynnau rhwng 10am ddydd Sul 3 Hydref a 6pm ddydd Llun 4 Hydref. Mae'r cynnwys wedi'i recordio ymlaen llaw, a does dim rhaglen benodol ar gyfer y digwyddiad, fel y gallwch chi fwynhau'r gweithgareddau yn eich pwysau.
Bydd yr holl gynnwys digidol ar gyfer y digwyddiad hwn yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) ac eithrio rhai elfennau i'w gadarnhau. Darperir isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gyfer pob fideo.
Diolch yn fawr i’n holl sefydliadau partner am weithio gyda ni ar y digwyddiad hwn. Dilynwch y dolenni i’w gwefannau i ddysgu rhagor amdanynt.
Mentrau Iaith | Menter Gorllewin Sir Gâr (mentergorllewinsirgar.cymru)
Promoting great British fleece wool | British Wool)
Archebwch eich tocyn am ddim nawr
Gwybodaeth Bwysig
- Cynlluniwyd y digwyddiad hwn ar gyfer plant 2-11 oed.
- Mae nifer cyfyngedig o docynnau.
- Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw.
- Bydd rhestr o'r adnoddau fydd eu hangen arnoch i fwynhau'r pecyn gweithgaredd ar gael ychydig wythnosau ymlaen llaw, i'ch helpu i gynllunio ar gyfer eich Pecyn Gweithgareddau Gwlanog i'r Teulu.
- Bydd deunydd digidol y digwyddiad ar gael i ddeiliaid tocynnau rhwng 10am ddydd Sul 3 Hydref a 6pm ddydd Llun 4 Hydref.
- Mae'r cynnwys wedi'i recordio ymlaen llaw, a does dim rhaglen benodol ar gyfer y digwyddiad, fel y gallwch chi fwynhau'r gweithgareddau yn eich pwysau.
- Archebwch 1 tocyn ar gyfer bob grŵp neu deulu.Gofynnir i chi ddarparu nifer y mynychwyr ym mhob grŵp neu deulu wrth gofrestru.
- Bydd yr holl gynnwys ar gyfer y digwyddiad hwn yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) ac eithrio rhai elfennau i'w gadarnhau. Darperir isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gyfer pob fideo.
- Diolch i Menter Gorllewin Sir Gâr, British Wool a Jig-So sydd wedi darparu gweithgareddau yn y pecyn hwn.