Digwyddiadau Digidol
DigwyddiadauDigwyddiad Digidol: Cymru Anhysbys 2021



Ymunwch â ni am noson o sgyrsiau am fywyd gwyllt Cymru.
Byddwn ni'n clywed sgyrsiau gan bobl o bob cwr o Gymru am eu gwaith yn astudio, cofnodi a diogelu byd natur, gyda chyfle am sesiwn gwestiwn ac ateb gyda'r siaradwyr ar y diwedd.
A cofiwch am y cwis natur ar yr egwyl!
Beth yw'r digwyddiad?
Byddwn ni'n dechrau'r noson gyda sgwrs am y technegau eDNA sy'n cael eu defnyddio i adnabod rhywogaethau ymledol a dan fygythiad. Sut mae hyn yn gweddnewid ein dulliau o fonitro a gwarchod ein hamgylchfyd?
Dysgwch am y corynod sy'n byw yng nghynefinoedd amrywiol Cymru. Mae rhywogaethau arctig-alpaidd yn byw o hyd yn ein mynyddoedd uchel, a chorynod ein harfordiroedd yn fwy cartrefol mewn hinsoddau cynhesach.
Byddwn ni'n dysgu sut gall creu cynefinoedd trefol neu isadeiledd gwyrdd helpu pobl a byd natur i ffynnu yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.
Pa mor dda ydych chi'n adnabod casgliadau hanes natur yr Amgueddfa? Bydd ein sgyrsiau cyflym yn rhoi cyfle i chi ddysgu sut ydyn ni'n defnyddio delweddu digidol i'n helpu i rannu'r miliynau o sbesimenau hanes natur yng nghasgliad yr Amgueddfa yn well.
Cewch gip hefyd ar y casgliadau botaneg a'u defnydd, gan ganolbwyntio'n benodol ar blanhigion yr ucheldir.
Byddwn hefyd yn datgelu'r diweddaraf am broject yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt o gyflwyno afancod i Gymru.
Digwyddiad digidol gyda'r nos fydd hwn, ac mae'r rhan fwyaf o'r sgyrsiau wedi eu recordio ymlaen llaw, gyda sesiwn gwestiynau fyw.
Mae’r digwyddiad yn fenter ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru.
Rhaglen:
Cymru Anhysbys – Unknown Wales 2021
6.30pm Croeso i Cymru Anhysbys 2021.
6.35pm Beth sydd mewn diferyn? Defnyddio DNA amgylcheddol i adnabod rhywogaethau ymledol a dan fygythiad yng Nghymru – Sofia Consuegra del Olmo, Prifysgol Abertawe.
6.55pm Sgwrs Sydyn: Drwy'r Drych: Dychmygu casgliadau Hanes Natur Amgueddfa Cymru – Jim Turner, Amgueddfa Cymru.
7.05pm Ysbrydoli cynefinoedd trefol, cysylltu pobl a bywyd gwyllt – Iwan Edwards, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru.
7.30pm Egwyl a chwis.
7.45pm Fideo byr: Casgliadau botaneg Amgueddfa Cymru
7.55pm Corynod prin a diddorol Cymru – Richard Gallon, COFNOD a Chymdeithas Arachnolegol Prydain
8.15pm Sgwrs Sydyn: Afancod - Ddoe, Heddiw ac Yfory – Alicia Leow-Dyke, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt.
8.25pm Sylwadau i gloi.
Gwybodaeth Bwysig:
- Digwyddiad digidol gyda'r nos fydd hwn, ac mae'r rhan fwyaf o'r sgyrsiau wedi eu recordio ymlaen llaw, gyda sesiwn gwestiynau fyw.
- Bydd cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg ar gael.
- Mae'r digwyddiad hwn wedi ei anelu at gynulleidfa o oedolion gyda diddordeb amatur brwd yn y pwnc - Nid oes angen meddu ar wybodaeth arbenigol i gymryd rhan. Gall oedolion ifanc a phlant iau gymryd rhan hefyd gyda pheth cymorth.
- Drwy brynu tocyn, rydych yn cytuno i'n Telerau ac Amodau ar gyfer Digwyddiadau Ar-lein. Er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn un diogel a braf i bawb, ymgynefinwch â hyn o flaen llaw.