Digwyddiadau Digidol

Digwyddiadau

Digwyddiad Digidol: Sgwrs Amgueddfa: | Hunllefau Cynhanesyddol | Saesneg

Wedi'i Orffen
31 Hydref 2021, 18:00
Pris Tallwch Beth Gallwch - Rhodd a awgrymir: £5
Addasrwydd Pawb
 Teitl Sgwrs Amgueddfa - Museum Talks ar cefndir bwrdd sialc

Beth oedd y cyfnodau mwyaf dychrynllyd cyn oes y deinosoriaid?

Mae ffosilau yn dangos i ni pa greaduriaid rhyfedd a dychrynllyd oedd yn byw yn yr oesoedd a fu. Filiynau o flynyddoedd cyn y deinosoriaid hyd yn oed, roedd pob math o anifeiliaid diddorol yn nofio'r moroedd, yn cropian y ddaear neu'n hedfan drwy'r awyr. Ymunwch â dau o balaeontolegwyr yr Amgueddfa wrth iddynt archwilio bywyd cynnar y Ddaear, a datgelu beth maen nhw yn ei feddwl yw'r cyfnod cynhanesyddol mwyaf dychrynllyd. Mae moroedd cynnes yn llawn bywyd yn swnio'n braf iawn, ond pa greaduriaid oedd yn llechu yn y dyfroedd? Gwell osgoi'r dŵr efallai...ond fyddai cerdded drwy gors lo yn well, neu a oedd y tir hefyd yn llawn creaduriaid peryglus?

TOCYNNAU

Rhaglan Llawn

 

Digwyddiadau