Digwyddiadau Digidol
DigwyddiadauDigwyddiad Digidol: Teithiau Ysbryd Ar-lein Sain Ffagan
Wedi'i Orffen

Ffotograffiaeth gan Garmon Roberts
Ymunwch â Dark Wales Tours ar Daith Ysbryd rithwir fydd yn codi'r llen ar ddirgelion Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru...
• Mwynhewch o gysur eich cartref wrth i ni gael mynediad arbennig i rai adeiladau hanesyddol liw nos am y tro cyntaf.
• Ymgollwch yn hanes pob adeilad wrth i ni adrodd y straeon iasol sydd wedi eu casglu dros y blynyddoedd.
• Ar ôl y daith, ymunwch â sgwrs holi ac ateb fyw dros Zoom gyda thîm Dark Wales Tours, i glywed mwy o straeon arallfydol.
Does dim gemau na thriciau ar y daith hon – mae'n daith rithiol wedi'i hymchwilio’n drylwyr ac yn driw drwy erddi ac adeiladu'r Amgueddfa. Bydd yn ymweld â'r union lefydd lle mae staff ac ymwelwyr yr Amgueddfa wedi gweld, clywed a theimlo pethau anesboniadwy dros y blynyddoedd.
Gwybodaeth Bwysig: