Digwyddiadau Digidol
DigwyddiadauDigwyddiad Digidol: Sgwrs Amgueddfa: Arferion Caru Cymreig | Cymraeg
Wedi'i Orffen

Mae 25 Ionawr yn Ddiwrnod Santes Dwynwen, pan fyddwn yn dathlu nawddsant cariad a chyfeillgarwch. Bydd y sgwrs hon yn edrych ar wrthrychau o’r casgliad a gafodd eu rhoi fel symbolau o gariad – o’r llwy garu i bethau llai amlwg, fel gweiniau gweill a phrennau staes. Roedd y rhain yn symbolau gwerthfawr, ac maent yn adrodd hanesion cudd pobl gyffredin. Trwy gyfrwng y negeseuon a’r addurniadau cain sydd wedi’u cerfio ar y symbolau hyn, gallwn ddysgu mwy am obeithion a dyheadau eu gwneuthurwyr, a chanfod ambell stori garu o’r gorffennol.
Rhaglan Llawn