Digwyddiadau Digidol
DigwyddiadauDigwyddiad Digidol: Sgwrs Amgueddfa: Gwarchod Môr-grwban Lledraidd Mwyaf y Byd
Wedi'i Orffen

Ym 1988 cafodd môr-grwban lledraidd anferth ei ddarganfod yn farw ar draeth ger Harlech. Roedd yn perthyn i'r rhywogaeth fwyaf ei maint o fôr-grwban, a bu Amgueddfa Cymru wrthi'n ddiwyd yn casglu a pharatoi'r anifail anhygoel at gael ei arddangos. Ond mae nifer o heriau wrth gadw creadur o'r fath mewn amgueddfa. Bydd y sgwrs hon yn edrych ar rai o’r heriau hyn, a'r gwaith cadwraeth sydd ei angen i warchod y sbesimen eiconig hwn er mwyn i ymwelwyr allu rhyfeddu ato am genedlaethau i ddod.
Cynhelir y sesiwn yma yn Saesneg.