Digwyddiadau Digidol
DigwyddiadauDigwyddiad Digidol: Sgwrs Amgueddfa: Archaeoleg Ogofâu Hoyle ger Dinbych-y-pysgod | Saesneg

Bu Amgueddfa Cymru yn cloddio Ogofâu Hoyle’s Mouth a Little Hoyle, Penalun rhwng 1984 a 1996. Daeth pob math o ddarganfyddiadau archaeolegol i’r golwg, yn dyddio’n ôl gymaint â 34,000 o flynyddoedd. Roedd yr ogofâu yn cael eu defnyddio’n achlysurol nes dechrau’r canol oesoedd. Bydd y sgwrs hon yn canolbwyntio ar ddefnydd yr ogofâu yn y cyfnod cynhanesyddol, gan drafod arfau cerrig, esgyrn anifeiliaid, newid hinsawdd, a’r ffordd yr oedd pobl yn defnyddio’r ogofâu.
Cynhelir y sesiwn yma yn Saesneg.