Digwyddiadau Digidol

Digwyddiadau

Digwyddiad Digidol: Sgwrs Amgueddfa: Hanes Gwneud Seidr yng Nghymru

Wedi'i Orffen
8 Medi 2022, 6 - 6:30pm
Pris Talwch beth allwch chi, awgrymwn gyfraniad o £5
Addasrwydd Oedolion
 Teitl Sgwrs Amgueddfa - Museum Talks ar cefndir bwrdd sialc
B&w photo

Hanes cynhyrchu seidr yng Nghymru, gyda lluniau. O gyfeiriadau anelwig cynnar i'w dwf fel arfer gweledig cyffredin yn y 18fed a'r 19eg ganrif, i'w ddirywiad, a'i adfywiad yn niwedd yr 20fed ganrif.

Diod alcoholig wedi'i fragu drwy eplesu sudd afal yw siedr. Seidr oedd diod gyffredin nifer fawr o drigolion gororau Cymru tan ddechrau'r 20fed ganrif. Roedd cynhyrchu seidr yn grefft fedrus a hynafol oedd yn gyffredin tan ddiwedd y 1950au, pan ddisodlwyd y grefft gan gynnyrch y cwmniau masnachol. Byddai seidr cartref yn parhau i gael ei gynhyrchu ar raddfa lai gan ffermdai, wnaeth gadw'r grefft yn fyw cyn i do newydd o fragwyr crefft gymryd yr awenau yn y 1990au, gan arwain at yr adfywiad a'r datblygiad presennol. 

Cynhelir y sesiwn yma yn Gymraeg.

Bydd y sgwrs hon yn cael ei chynnal fel gweminar by war Zoom. Bydd e-bost gyda dolen i ymuno â’r weminar yn cael eu hanfon i chi 2 awr cyn y sgwrs. Gall hefyd gael mynediad i’r ddolen yma trwy eich porth cwsmer Amguedda Cymru ar-lein. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sbwriel os na allwch weld yr e-byst a chysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk os oes problem. 

Bydd y weminar ar gael i'w gwylio am 48 awr wedi'r digwyddiad a bydd dolen yn cael ei gyrru i chi drwy e-bost yn dilyn y sgwrs. 

Os ydych chi’n prynu llyfrau yn gysylltiedig â’r sgwrs hon, cofiwch y bydd gwerthiant yn dod i ben 10 munud cyn y digwyddiad, ac y bydd pob archeb yn cael ei phostio ar ôl yr amser hwn. 

 

British Sign Language translations will be provided - Tony Evans BSL/English 

 

Tocynnau

Digwyddiadau