Digwyddiadau Digidol

Digwyddiadau

Digwyddiad Digidol: Sgwrs Amgueddfa: Saturnalia: O Ŵyl y Rhufeiniaid i'r Nadolig Modern

Wedi'i Orffen
15 Rhagfyr 2022, 6 - 6:45yh
Pris Talwch beth allwch chi
Addasrwydd Oedolion
Saturnalia - Gwreiddiau Rhufeinig y Nadolig a'i Draddodiadau

 

Ganol gaeaf noethlwm, pam fod pobl yn addurno'u tai â phlanhigion bythwyrdd? Beth yw’r rheswm dros gael gŵyl y banc ar 25 Rhagfyr, a dathlu dechrau blwyddyn newydd yng nghanol y gaeaf? Pam mae swyddogion y Lluoedd Arfog Prydeinig yn gweini bwyd i'w staff ar ddydd Nadolig? A pham wnaeth y Llywodraeth yn Llundain roi stop ar ddathlu'r Nadolig am flynyddoedd yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg?

Mae'r atebion i'r cwestiynau hyn yn y traddodiadau Rhufeinig neu gynharach ac maen nhw'n dal i effeithio arnom hyd heddiw. Bydd Dr Mark Lewis, Uwch Guradur (Rhufeinig) Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion yn edrych ar hanes hir a hynod rhai o'n traddodiadau ac arferion gaeafol hynaf.

 

Cynhelir y sesiwn yma yn Saesneg.

 

Bydd y sgwrs hon yn cael ei chynnal fel gweminar by war Zoom. Bydd e-bost gyda dolen i ymuno â’r weminar yn cael eu hanfon i chi 2 awr cyn y sgwrs. Gall hefyd gael mynediad i’r ddolen yma trwy eich porth cwsmer Amguedda Cymru ar-lein. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sbwriel os na allwch weld yr e-byst a chysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk os oes problem.

Bydd y weminar ar gael i'w gwylio am 48 awr wedi'r digwyddiad a bydd dolen yn cael ei gyrru i chi drwy e-bost yn dilyn y sgwrs.

Os ydych chi’n prynu llyfrau yn gysylltiedig â’r sgwrs hon, cofiwch y bydd gwerthiant yn dod i ben 10 munud cyn y digwyddiad, ac y bydd pob archeb yn cael ei phostio ar ôl yr amser hwn. 

 

Tocynnau

Digwyddiadau