Digwyddiadau Digidol

Digwyddiadau

Digwyddiad Digidol: Sgwrs Amgueddfa: Celf fel Profiad Digidol

Wedi'i Orffen
19 Ionawr 2023, 6:00yh
Pris Talwch Beth Gallwch - Rhodd a awgrymir: £5
Addasrwydd Pawb
 Teitl Sgwrs Amgueddfa - Museum Talks ar cefndir bwrdd sialc

Bydd Maddie Webb, Curadur Dogfennaeth Celf Ddigidol a Sara Treble-Parry, Gweinyddydd y Project, yn trafod project digideiddio cyffrous newydd Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru yn Amgueddfa Cymru. 

Gan ystyried prosesau digideiddio tu ôl i'r llenni, ymgynghoriadau cyhoeddus a chreu cynnwys newydd, penllanw'r project uchelgeisiol hwn fydd gwefan gelf gyfoes newydd fydd yn rhoi'r profiad ar-lein gorau posibl o'r Casgliad Celf Cenedlaethol. 

 

Cynhelir y sesiwn yma yn Saesneg. 

 

Gwybodaeth Bwysig

Bydd y sgwrs hon yn cael ei chynnal fel gweminar by war Zoom. Bydd e-bost gyda dolen i ymuno â’r weminar yn cael eu hanfon i chi 24 awr cyn y sgwrs. Gall hefyd gael mynediad i’r ddolen yma trwy eich porth cwsmer Amguedda Cymru ar-lein. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sbwriel os na allwch weld yr e-byst a chysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk os oes problem.

Bydd y weminar ar gael i'w gwylio am 48 awr wedi'r digwyddiad a bydd dolen yn cael ei gyrru i chi drwy e-bost yn dilyn y sgwrs.

Os ydych chi’n prynu llyfrau yn gysylltiedig â’r sgwrs hon, cofiwch y bydd gwerthiant yn dod i ben 10 munud cyn y digwyddiad, ac y bydd pob archeb yn cael ei phostio ar ôl yr amser hwn. 

 

 

Tocynau   

Digwyddiadau